Strata Florida Adventure Day School

Pontrhydfendigaid

Cyfleusterau addysg i blant plwyfi Caron  a Gwnnws cyn y Ddeddf Addysg Elfennol yn 1870

Rhagymadrodd

Dathlwyd can mlwyddiant ysgol y Bont ychydig dros deugain mlynedd yn ôl ym mis Mai,1979. Penderfynnodd y Pwyllgor Dathlu ar y pryd gyhoeddi llyfr yn olrhain hanes yr ysgol yn ystod y ganrif. Ymddiriedwyd y dasg o ymchwilio ac ysgrifennu’r hanes i Dafydd Jones a W J Gruffydd, dau brifardd adnabyddus o Ffair Rhos a chyn ddysgyblion yr ysgol. Enw’r llyfr oedd Rhwng Bont a Ffair Rhos ; mae’n arbennig o ddiddorol ac yn werth ei ddarllen, ac yn wir nid oes dim llawer i elwa drwy geisio ychwangu ato.

Prif fwriad yr erthygl hon yw edrych ar y cyfleusterau addysg oedd ar gael i blant y Bont cyn i’r ysgol bresennol gael ei hadeiladu. Anodd yw credu nad oedd system addysg genedlaethol yn bodoli yng Nghymru na Lloegr tan ail hanner y 19eg ganrif. Cyn y Ddeddf Addysg Elfennol yn 1870, roedd addysg reolaidd a safonol wedi ei gyfyngu i raddau helaeth i’r trefi, ac i blant a modd gan eu rhieni i’w hanfon i ysgolion preifat.

Yng Ngharon a Gwnnws, dim ond dau bentref a rhai hynny yn gymharol fach oedd yn yr ardal, ac mae’n debygol nad oedd fawr o deuluoedd o fewn y ddau blwyf (os oedd un) a allai fforddio ffioedd addysg preifat, llawn amser. Rhaid oedd i blant y werin-bobl aros tan y Ddeddf uchod i gael unrhyw fath o hyfforddiant swyddogol. Nod y ddeddf hon oedd darparu addysg elfennol i bob plentyn ac yn fwyaf arbennig i’r rhai hynny a oedd yn hanu o’r dosbarth gweithiol. Ac mae’n werth nodi bod bron i gwarter canrif arall wedi mynd heibio cyn i blant yr ardal gael cyfle i fynd i ysgol uwchradd.

Llyfr gan ddau o brifeirdd Ffair Rhos, Dafydd Jones a W J Gruffydd yn olrhain hanes ysgol y Bont

Yn y degawd yn dilyn dyfodiad Deddf 1870, cynhaliwyd ysgol elfennol y Bont yn festri’r Methodistiaid. Mae ychydig o ansicrwydd ynghylch pa bryd yn union y symudwyd i’r adeilad presennol (1879 neu 1881), ond yn amlwg daeth yr ecsodus ddim ond just in time.  Ceir hanes yn yr Aberystwyth Observer (Tachwedd 1880) am yr Awdurdod Iechyd yn condemnio :

. . . the disgraceful state in which the privies of the Pontrhydfendigaid board school are kept.

Trwy lwc, roedd yr ysgol newydd yn barod, ond o achos anghytundeb rhwng y School Board a’r adeiladwyr bu’n rhaid gohirio’r symud am gyfnod. Bu tipyn o helbul ar y pryd, a bu’r ysgol yn wag am ychydig amser, ond stori arall yw honno (am ragor o wybodaeth, gweler papurau lleol y cyfnod).

Mae’n siwr y cytuna pob un sydd wedi darllen Rhwng y Bont a Ffair Rhos bod addysg yn y cyfnod 1870 i 1880 yn go isel, yn enwedig o’i gymharu â’r hyn a geir yn y Bont heddiw. Ond ar ôl i Mr John Rees gael ei benodi yn brifathro yn 1883, ac wedyn o dan brifathrawiaeth Mr J. G. Williams, cododd y safon. Yn sicr, yn ystod hanner can mlynedd cyntaf yr 20fed ganrif, roedd yr ysgol yn cynnig yr addysg orau bosibl ar y pryd i bob plentyn, beth bynnag oedd ei gefndir/chefndir.

Ond beth oedd y sefyllfa yn hanner can mlynedd cyntaf y 19eg ganrif? Ymgais sydd yma i roi braslun o’r addysg oedd ar gael i blant y Bont a’r cylch y pryd hwnnw.

Y comisiynwyr o Loegr

Yn 1846 gofynnwyd i dri chomisiynydd o Loegr i ymchwilio i addysg yng Nghymru, a chyhoeddwyd eu hadroddiad (1847) mewn tair cyfrol ag iddynt gloriau glas – y Llyfrau Gleision.  Yn ôl yr addroddiad dim ond un ysgol y gellid ei galw yn ysgol-ddyddiol oedd ym mhlwyfi Caron a Gwnnws. Sefydlwyd honno yn 1843, ac mae’n debygol mai hi oedd yr ysgol gyntaf yn y cylch. Ei henw oedd Strata Florida Adventure Day School. Safai’r ysgoldy yn agos iawn i’r pentre’ ar ymyl y ffordd i Ystrad Fflur, rhywle yn agos i Bencreigiau (gweler cyfrifiad gwladol 1851). Mae enw’r ysgol yn dynodi mai menter rhad preifat yr ysgolfeistr oedd hon – modd o ennill ychydig o fywoliaeth. Rhaid mai plant o deuluoedd gweithiol oedd y disgyblion a bod y tâl wythnosol rhywle rhwng pedair a chwe cheiniog y pen. Er bod nifer dda o ddisgyblion ar y gofrestr, dim llawer fyddai yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd. Yn ystod misoedd yr haf, byddai’r bechgyn wrthi yn gwlana ar y mynydd, yn cywain gwair, codi mawn, ayb., ac wrth gwrs, ar ôl iddynt gyrraedd 10 i 12 oed, byddent yn gadael yn gyfangwbl i weithio’n llawn amser. Roedd y merched hefyd yn aml-absennol ; teuluoedd mawr oedd y norm ar y pryd, a rhaid oedd i’r merched aros gartref yn fynych i helpu gyda’r plant iau.

Fel y gellid disgwyl, roedd cyflog yr ysgolfeistr yn fach, ac mae portread y comisinydd o gartref yr ysgolfeistr yn brawf o hynny :

. . . I afterwards saw the hut where the schoolmaster lived, which consisted of a single room hut without a chimney other than a hole in the roof  – more smoke escaping through the door than upwards. The schoolmaster’s mother lay dying on a bed by the door and a younger woman was cooking by the fire, and all of them slept in the same place, which was scarcely 12 ft. square . . . the walls of the hovel were of mud  . . . the place was so dark that scarecely anything could be disinctly  seen in it . . . and this is where the schoolmaster lived, and his school was the only day school within many miles round.

Ond beth am safon yr addysg? Heb fod yn llewyrchus iawn meddai’r comisiynydd (Sais rhonc) er bod rhai o’r plant wedi darllen yn Saesneg yn tolerably well, ond roeddent meddai yn :

. . . mispronouncing words like pleesure for pleasure, warld for word and trorble for trouble.

Rhaid imi gyfaddef, bedwar ugain mlynedd yn ôl, pan oeddwn i yn ysgol y Bont, ychydig ohonom (os oedd un) fyddai’n medru ynganu geiriau Saesneg fel ryw ‘doff o Sais’.

Ni ellir bod yn siwr o gymwysterau na gallu’r ysgolfeistr, ond yn gyffredinol, roedd dysgu yn y cyfnod o dan sylw yn un o’r swyddi isaf ei statws mewn cymdeithas. Yn ôl Y Parch Kilsby Jones (Y Genhinen, Ionawr 1885) :

. . . câi y penbwl mwyaf o ran yr ymenydd, a’r mwyaf di-ras o ran ei foesau wneud y tro i hyfforddi plant yr amser hwnnw.

Ysgolion dros-dro oedd y mwyafrif yn cael eu cynnal mewn adeiladau ymhell o fod yn addas at y diben : 

. . . cedwid hwy mewn pob math o dai ond cael rhywfath o do arnynt – rhedyn neu brwyn a hefyd, yn aml mewn eglwysi a chapeli heb ddim tân. Yn y gaeaf, pan oedd y teuluoedd gweithiol yn fwyaf tebygol o anfon eu plant i’r ysgol, roedd golwg dorcalonus arnynt – trwynau cyn lased â chenhinen, a’u traed bron rhewi (Y Genhinen 1885).

Mae’n wir i ddweud bod plant Caron a Gwnnws (y rhai hynny a anwyd yn yr hanner can mlynedd cyntaf o’r 19ed ganrif) wedi eu hamddifadu, bron yn llwyr, o gyfleusterau addysg safonol, ac mae’n anodd derbyn adroddiad y comisynwyr sydd yn llwyddo i roi pictiwr hollol anheg o’r plant.  Llwyddodd nifer ohonynt o y ardal y Bont oresgyn holl anfanteision y cyfnod  (1800-1850) a gwneud cyfraniadau nodedig mewn gwahanol feysydd. Mae braslun o hanes tri ohonynt oedd yn hanu o’r dosbath gweithiol wedi ei gynnwys isod.

John Phillips

Yn bendant, nid oedd yr un ysgol-ddyddiol o safon i’w chael yn y Bont pan oedd John Phillips  yn grwt. Ganwyd ef yn 1810 yn Islwyn, neu Sein, tŷ bach ar draws y ffordd i gapel y Methodistiaid. Ni fu mewn ysgol ond yn ysbeidiol – ychydig o amser yn ysgol Edward Richard yn Ystradmeurig lle bu Lladin, Groeg a Hebraeg yn boen iddo. Pan oedd yn 19 oed aeth i Langeitho i ysgol a oedd o dan ofal gŵr ifanc bron yr un oedran ag ef,  sef Lewis Edwards (Dr. Lewis Edwards, y Bala, wedi hynny), ac aeth y ddau ymlaen i fod yn arloeswyr enwog yn myd addysg Cymru. Llafuriodd John Phillips yn galed :

. . . i geisio deffro Cymru i weld a theimlo yr angen am addysg ac i gael athrawon cymwys (John Phillips: Arloeswr Addysg gan Harri Williams).

Sein tua dechrau’r Ail Ryfel Byd

Casglodd arian mawr i sefydlu a chynnal ysgolion yng ngogledd Cymru a hefyd i adeiladu coleg i hyfforddi athrawon – Coleg Normal Bangor. Ond fel pregethwr y daeth John Phillips i amlygrwydd gyntaf. Yn ystod ei ddyddiau cynnar roedd yn adnabyddus fel y gŵr a wnaeth swyno Gwen Thomas (yn nofel Daniel Owen). I Gwen, dyna’r dyn harddaf a mwyaf bonheddig a welodd  hi erioed yn ei bywyd. Mewn llesmair, gofynynodd i’w ffrind Elin :

. . . Pwy ydio Elin?

Ymatebodd Elin :

. . .Mr John Phillips, Treffynnon – pregethwr Methodus ydio.

Ac yn llawn syndod, mae Gwen yn ymateb mewn llais mwyaf angrhedadwy :

. . . Hwn ene yn bregethwr Methodus, Elin? Oes gynnoch chi ddyn mor hardd a boneddigaidd a nene yn bregethwr Methodus?

Ni ellir dweud yn bendant pa bryd y gadawodd John Phillips y Bont, ond yn sicr dechreuodd dreulio mwy a mwy o’i amser yn teithio’r wlad ar ddechrau’r tridegau (1830s). Yn 1835, aeth  i Dreffynnon yn weinidog, ac oddiyno i ogledd Cymru lle treuliodd weddill ei oes. Gwyddom iddo wneud gwaith arwrol ym myd addysg yng Nghymru gyfan ond, er mai yn y Bont ac yng Nghapel y Methodistiaid yn fwyaf arbennig y dechreuodd ar ei yrfa, nid oes un cyfeirnod yn unman yn dweud iddo gyfrannu yn benodol at addysg ei ardal enedigol.

W.R. James

Er bod y comisiynwyr wedi beirniadu crefydd Cymru yn hallt, roedd cristionogaeth yn elfen gref ar y pryd a chyda’r grym i liwio bywyd moesol a dysg. Treuddiai i fywyd cymdeithasol a gwleidyddol i raddau sydd yn anodd i’w amgyffred heddiw. Fel John Phillips, cafodd crefydd, y pregethwyr a’r capel argraff mawr ar W.R. James fel plentyn yn y Bont. Ganwyd ef yn 1848.

 

Gof oedd ei dad ac yn byw drws nesaf i’r lle mae siop y pentref heddiw. Roedd gefail ei dad, a hefyd ei frawd Robert, ar y sgwâr, lle roedd garej Huw (y diweddar Huw Jones) yn arfer bod. Un o gewri enwad y Bedyddwyr oedd W. R. James; bu’n genhadwr yn  India  am gyfnod dros 33 mlynedd. Syndod imi oedd darllen bod Lloyd George yn bresennol yn ei angladd yn Ystrad Fflur, ac mae’n debyg iddo fynegi ei deimladau yn yr angladd gan ddweud

Cydalaraf â chwi ar farwolaeth fy hen gyfaill, W R James, un o weision anwylaf Crist.

Efail y Gof tad a brawd W.R. James

Ni bu llawer o newid ym myd addysg yn y Bont yn y degawd yn dilyn cyhoeddi’r Llyfrau Gleision. Roedd y cyfleusterau fawr gwell yng nghyfnod cynnar W. R. James nac  oeddent yn amser John Phillips. Mae’n debyg bod ysgol drod-dro ar gael yn y Bont am gyfnod rywbryd cyn 1860  ac i W. R. James fod yn ddisgybl pan oedd tua 8 i 10 oed. Ond fel Strata Florida Adventure Day School nid oedd fawr o lun arni, a’r unig beth a ddysgodd y disgybl ifanc oedd yr abiéc. Gwyddom mai prifathrawes ddi-briod oedd yn rhedeg yr ysgol fel modd o gynnal ei hunan. Ei henw yn ôl y cyfrifiad gwladol 1851 oedd Margaret Edwards, 27 mlwydd oed yn byw ar phen ei hun yn rhif 6, Glasyfelin. Mae’n anodd dweud yn hollol lle roedd Glasyfelin, ond yn sicr rhywle yn agos i Black Lion a nepell o hen gartref John Phillips. Mae’n debygol mai byr iawn oedd hanes yr ysgol hon, priododd Margaret Edwards a mynd i fyw i Lanilar cyn y cyfrifiad gwladol 1861.

Aeth W R James i ysgol dros-dro arall – ysgol Talwrnbont mewn adeilad a addaswyd yn ddiweddarch fel gefail y gof. Mae rhai efallai yn cofio Issac y Gof yn gweithio yno a wedyn Tom y Gof. Yn ôl W R James :

. . . adnabyddid yr ysgolfeistr fel ‘John Pannwr’, am mai pannwr oedd ei dad. Nid oedd ganddo grap ar un iaith, ond y Gymraeg a’r Saesneg, ac roedd ymhell o fod yn feistr ar yr olaf. Ystyrid ef yn rhifyddwr rhagorol yn y dyddiau hynny, ac o dan ei ddysgeidiaeth ef y deuais yn hoff o rifyddiaeth (Cofiant y Parch W R James gan T R Morgan).

Ar ôl Talwrnbont, aeth i ysgol Edward Richard yn Ystradmeurig. Wrth gwrs, nid ysgol i blant o deluoedd gweithiol oedd hon fel y bu i’r prifathro (Rev. John Williams) gyfaddef i’r comisiynydd yn 1846 – dim ond tri meddai oedd yn yr ysgol :

. . . belonging to the labouring classes.

Ni fu amser W. R. James yn Ystradmeurig yn fuddiol iawn. Byr fu ei arhosiad gan nad oedd rhifyddeg yn cael fawr o sylw yno. Efallai mai rhifyddeg oedd ei hoff bwnc, ond gwyddom iddo feistroli pedair o ieithoedd India ac yn ôl hanes roedd yn :

. . . gifted preacher in the Bengali language.

Bu am dri mis mewn un ysgol arall :

. . . gyrrwyd fi i ysgol yn Kington er mwyn dysgu Saesneg, ond eto ni elwais lawer am fod hiraeth mawr arnaf yr holl amser. Hyd hynny, ni fum ddiwrnod oddi cartref, oddi eithr ym Mhenlan, Swyddffynnon gyda fy nhadcu a mamgu ac am rai diwrnodau yn nŵr y mor yn Aberystwyth; ond roedd mam gyda fi yno.

William Jones

Gŵr arall a gafodd ond ysbeidiau byr o addysg elfennol oedd William Jones. Ganwyd ef yn 1842 ym Maesalwad Cottage, ym mhlwyf Caron uwch Clawdd. Labrwr amaethyddol oedd ei dad, ond erbyn 1845 roedd yn gweithio yn y gwaith mwyn, a chofrestrwyd ef yng nghyfrifiad gwladol 1851 fel Lead Miner, yn byw yn Nhynewydd yn agos i Alltddu. Yn ôl yr hanes, roedd William Jones yn ddysgwr cyflym ac yn medru darllen y Beibl yn rhugl, yn Gymraeg ac yn Saesneg, a hynny pan oedd ond pedair oed. Fel John Phillips a W R James, roedd fawr o fanteision addysgol ar gael iddo ar y pryd. Gellir bod yn sicr na fu mewn unrhyw ysgol ond ysgol Sul cyn iddo gyrraedd pedair oed. Yn ddi-os, bu’r ysgolion Sul yn gyfrwng pwysig i hybu plant i ddarllen, a chydnabuwyd eu gwerth yn y Llyfrau Gleision. Wrth gwrs, roedd y rhain wedi eu cyfyngu i ychydig oriau  ar y Sul ac i ddysgu darllen y Beibl yn Gymraeg yn unig. 

I ddarllen hanes  William Jones, cliciwch y llun gyferbyn

Ni chafodd William Jones ond thri tymor o hyfforddiant – mewn  ysgol dros-dro yng Nghapel y Methodistiaid (Tregaron) ac wedyn gyda John Pannwr yn Talwrnbont. Yn un-ar-ddeg oed aeth i ysgol arall dros-dro  yn Eglwys Tregaron,  lle roedd gŵr o Geinewydd yn athro am rai misoedd yn y gaeaf. Pan ddaeth y tymor hwnnw i ben, daeth addysg William Jones hefyd i ben. Cyn iddo gyrraedd deuddeg oed, dechreuodd fel gwas bach ar fferm Wernfelen yn gofalu am y gwartheg. Wedyn, yn 16 oed, aeth yn brentis i siop ddillad yn Nhregaron.

Ar ôl tair blynedd a hanner o brentisiaeth aeth i Birmingham a threulio naw mlynedd arall yn gweithio i nifer o fasnachau yn ymwneud â dillad.  Yn 1870 (blwyddyn y Ddeddf Addysg) pan oedd yn 28 oed, dechreuodd fusnes ei hun ac ymhen dim amser roedd yn ŵr neulltuol o gefnog. Daeth yn adnabyddus ledled Cymru am ei gyfraniadau haelionus i achosion crefyddol, addysgol ac elusennol. Ef oedd cadeirydd cyntaf llywodraethwyr ysgol Tregaron. Diwrnod seremoni agor yr ysgol, roedd dwy faner yn addurno neuadd y dre, un yn dymuno llwyddiant i’r ysgol a’r llall yn cydnabod cyfraniad William Jones yn sefydlu addysg uwch yn Nhregaron (os am ragor o wybodaeth am William Jones, gweler hanesybont.uk/?page_id=10304

Y gobaith yw y gall y portreadau byr hyn o dri unigolion arbennig o Garon a Gwnnws helpu i gyfleu ychydig am gyflwr addysg yn yr ardal ar ddechrau’r 19eg ganrif. Bu i’r tri uchod (er iddynt gael eu llwyr hamddifadu o ddysg ffurfiol cynnar) fynd ymlaen i arddel pwysigrwydd addysg, ac fe wnaeth dau ohonynt gyfraniad amhrisiadwy i hyrwyddo addysg yn Nghymru – mae arnom ddyled iddynt. Heb os, roedd yng Ngharon a Gwnnws (yn y cyfnod dan sylw) gymuned oleuedig, ddiwylliedig ac mae hanes yn dyst o hynny.

Cyn diweddu, efallai bod yn werth cyfeirio at neges fach arall sydd yma – nid yw llwyddiant bob amser yn gysylltiedig ag addysg ffurfiol na maint yr addysg hwnnw. Cofier arwyddair Ysgol Uwchradd Tregaron – Mewn Llafur mae Elw.

Click button to return to the top of the page and to the navigation bar