Baled gan David Jones, Llanybyther yn disgrifio taith ar y Manchester & Milford Railway o sir Benfro i Strata Florida station yn 1866. Pan ysgrifennwyd y faled hon, roedd y rheilffordd ddim ond wedi cyrraedd Strata Florida. Roedd y darn o Strata Florida i Aberystwyth yn dal heb ei orffen a ‘doedd dim sôn am ddechrau ar y rheiffordd i Llanidloes.
Taith ar y Manchester & Milford Railway o sir Benfro i Strata Florida station yn 1866.
1 | Pwff, pwff mae’r Train yn starto, Yn y boreu o Sir Benyfro; Dyma gyfle am Manchester Neu unrhyw ran o Gymru a Lloger.
Canwn glod i Gymru lân Canwn glod i Gymru lân, Nawr i’r dynion gwych a dewrion Am wneud ffordd i’r Ceffyl Tân |
2 | Dyma ni wrth orsaf Tenby, Pasio Whitland wedi hyny, I Saint Clears, a Bankyfelyn Dyma ni yn nhre’ Caerfyrddin Canwn glod, etc. |
3 | Llwyddiant fyddo i’r ddau Contractor, Am roi railen lawr yn rhagor; Narrow Guge nawr sy’n gweithio Glo a Chalch a ddaw’n fwy cryno. Canwn glod, etc. |
4 | Nawr am Fronwydd ac i Gynwyl, Dyma bwffan mae’r hen geffyl Trwy Llanpumpsaint ar ei drafael Mewn ac allan trwy y Tunel. Canwn glod, etc. |
5 | Dyma orsaf Penycader, Dyma bobloedd luoedd lawer Dacw’r Junction, dacw’r Tunel Crossinfach a Llanfihangel.
Canwn glod oll yn glyd Canwn glod oll yn glyd Naw’r i Davies ac i Beeston Duff, a’r gweithwyr dewr i gyd |
6 | Dyma station Maesycrygiau, Man lle bum i gynt yn chwareu; Awn ymlaen trwy blwyf Llanllwni Awel iach sy’n dyffryn Teifi. Canwn glod, etc. |
7 | Dyma ni yn Llanybyther, Lle bum ganwaith wrth fy mhleser, Yn y Train r’wyn mynd i ganu, Dowch ymlaen yn awr i brynu* Canwn glod, etc. |
8 | Ac i fyny rhaid im fyned, Dros yr afon tua Llambed; Mewn lle hardd mae’r Orsaf hyny, O’r naill- Canwn glod, etc |
9 | Tua’r Bettws awn yn union Dacw dy Contractor Besston Awn i Lanio ar ryw garlam Heb gael Pint yn ty Lord Brougham. Canwn glod, etc |
10 | I Dregaron awn oddi yno, Lle cawn dan o fawn i dwymo; Rhai o’r dref sydd yma’n dyfod, I gael prynu Can y Railroad. Canwn glod, etc |
11 | Strata Florida yw’r nesaf, Yn y fan mi a ddisgynaf, Af ymlaen i ganu ychydig I drigolion Ystradmeurig Canwn glod, etc |
12 | Gwyr ac arian ant yn esmwyth Gyda’r Coach i Aberystwyth, Mhen ychydig amser etto, Am y Gan caf inau nghario. Canwn glod, etc. |
13 | Maent yn gweithio gyda eu gilydd, Trwy y Creigiau crog, a’r coedydd Tynygraig mae Tunel bychan A lle hyll nol dyfod allan. Canwn glod, etc. |
14 | Yn y blaen mae lle mwy hawddgar Ar hyd ddyfryn bach Llanilar, Ond ymhen awr neu ddwy gwna’r afon, ‘Speilo mis o waith y dynion. Canwn glod, etc. |
15 | Rhaid yw rhoddi afon Ystwyth, Mewn rhyw weli newydd esmwyth, Yn lle tori gwaith cadarnwedd, Sydd yn uno de a gogledd. Canwn glod, etc. |
16 | ‘Nol ei gorffen oll yn addas, Fe ddau bonedd mawr y Deirnas Pob rhyw radd fydd fel un tylwyth Yn ymwel’d ac Aberystwyth. Canwn glod, etc. |
17 | Trwy Machynlleth ar ryw garlam, Ceffyl Tan aiff i Landinam, I Drenewydd, a Llanidloes, Ac yn ol cyn ddaw y tywyll- Canwn glod, etc. |
18 | Cyn bo hir y bydd Excursion Ffeiriau mawr fydd yn Tregaron, Pontrhydfendigaid, a ffair Iwan Gyda’r Train dawr ieunctyd mwynlan Canwn glod, etc |
19 | Fferiau Llambed fydd yn llenwi, Llanybyther gyda hyny; Dyma ddau le tra rhagorol Ynddynt mae Marchnadoedd Misol. Canwn glod, etc. |
20 | Dylwn enwi ffair Pencarreg, Lle mae Shôn yn siarad Saesneg Ac yn dywyd My dear Jenny Come and have a glass of Brandy. Canwn glod, etc. |
21 | Ffair Llanwnen ddylwn gofio, Bu ymron a myn’d yn ango, Lle y gwerthir anifeiliaid Yr ail ddydd bydd Moch a Merched. Canwn glod, etc. |
22 | Boed i Davies ac i Beeston, Gofio am yr hen gantorion; Trwy roi Pass i fyn’d I’r ffeiriau I gael gwerthu Can y Railway. Canwn glod, etc. |
David Jones, Llanybyther
*Y mae GUANO ar werth gan David Jones yn ymyl station Llanybyther
LlGC, Baledi. JDL32
Click button to return to the top of the page and to the navigation bar