Llofruddiaeth

ar

Ben y Bwlch

Mae yna dair fersiwn yn y dudalen flaenorol o stori ‘Mwrdwr ar Ben y Bwlch’. Ar y cyfan, maent yn reit debyg, ond mae yna ychydig o anghysondeb mân wahaniaethau sy’n awgrymu, efallai, nad yw’r awduron yn rhy sicr o’r amgylychiadau a’r ffeithiau. Dyna pam fod y fersiwn nesaf gan Charles Arch yn werth ei chofnodi. Mae wedi ei seilio ar beth glywodd Charles, yn bersonol, gan nifer o hen drigolion yr Elenydd, ac yn fwyaf arbennig, gan aelodau o deulu Blaenglasffrwd

Charles Arch

Bu Charles Arch yn ‘byw dan y bwa’ ar fferm ei deulu ger Ystrad Fflur, lle iddo brofi bywyd ar fynyddoedd yr Elenydd ymhell cyn cyfnod y 4×4 na’r beic-cwad. Mae’n adnabod y cynteddau mynyddig cystal a chefn ei law – o Gwm Glasffrwd i Dowy Fechan, Moelprysgau a Garreglwyd, a hefyd i fyny at Glerddu, Esgair Garthen a Chlaerwen. Mwy na hynny, mae wedi adnabod hen deluoedd y mynydd, ac mae ei  hanes ef o‘r digwyddiad ym Moelprysgau wedi ei seilio ar storiau pobl yr ucheldir, yn fwyaf arbennig hen deulu y Robertsiaid yn Blaenglasffrwd.

Am ragor o hanes Charles Arch gweler [1] a [2]

Bu teulu’r Robertsiaid yn ffermio Blaenglasffrwd am dros gan mlynedd cyn gorfod rhoi’r gorau iddi yn gynnar yn hanner olaf yr ugeinfed ganrif. Mae yna ryw gymaint o dystiolaeth bod mwy nag un cangen o’r teulu yma wedi bod yn bugeilio’r cyffiniau am rai canrifoedd yn bosib mor bell nôl â dechrau’r ddeunawfed ganrif, pan oedd Evan Edward a’i wraig yn byw ym Moelprysgau. O gofio taw Blaenglasffrwd oedd y lle olaf i Evan Edward a’i wraig ymweld ag ef cyn y llofruddiaeth, mae’n deg meddwl bod stori Charles Arch yn fwy agos i’w lle nag unrhyw un arall.
Yn ôl Charles, mae Daniel Davies yn iawn taw ‘creadur meddw ac afradlon oedd Evan Edward, ac yr arferai, yn gyson, dreulio dyddiau yn yfed mewn tafarn ym Mhontrhydfendigaid. Mae yna awgrym hefyd ei fod yn hoff o gyfathrachu â menywod gwael eu cymeriad. Ar ôl blynyddoedd o ddioddef, fe wnaeth ei wraig gynllunio i’w ladd. gan obeithio roi terfyn ar eu perthynas anniddig.
Os yw Evan Jones yn iawn, doedd lladd rhywun ddim yn wrthun i Evan Edward na’i wraig. Un tro, daeth masnachwr teithiol i letya dros nos ym Moelprysgau.  Fe wnaeth y ddau dybied fod y dyn yn cario cryn dipyn o arian, ac fe aethant ati i’w lofruddio a dwyn ei eiddo. Dywedid na ddaeth neb i wybod am y drosedd tan i Evan Edward gyffesu ar ôl ei ddyfarnu’n euog o ladd ei wraig.  Hefyd, meddai Evan Jones, bu i Evan Edward, gyfaddef ei fod wedi mwrdro ei frawd (brawd di-briod yn cyd-fyw ag ef a’i wraig ym Moelprysgau) am resymau hunanol yn deillio o eiddgedd.
 
Fel y cyfeiriwyd eisioes, mae’n rhaid pwysleisio bod llofruddion cyn eu crogi o dan bwysau enfawr i “farw’n dda’ er mwyn sicrhau maddeuant gan Dduw. Rhan o “farw’n dda” oedd cyffesu i droesddau eraill, ond doedd y cyfaddefiadau hyn (o dan bwysau) ddim yn ddilys bob amser.
 
Bwriad y wraig, mae’n debyg, oedd trywanu Evan Edward â chyllell gegin finiog ar eu ffordd adref o Bontrhydfendigaid. Mwy na thebyg, roedd yn tybied y byddai Evan Edward yn dal i fod yn hanner meddw ac yn weddol hawdd i’w drechu.  

Moelprysgau yn yr eira (2000)

Cliciwch ar y llun i gael rhagor o fanylion

Fel oedd ei harfer, fe aeth i gwrdd a’i gŵr i Blaenglasffrwd ; ar ei ffordd yno fe aeth ati i gloddio bedd mewn man yn agos i Ben y Bwlch, gan feddwl claddu ei gŵr ar ôl ei lofruddio. Hwyrach, ei bod yn tybied na ddeuai neb ar draws y corff yn fuan iawn mewn man mor ddi-arffordd.
 
Hefyd, mae’n bosib ei bod yn hollol hyderus na châi byth o’i herlyn na’i chosbi, hyd yn oed os byddai i rywun ddarganfod y corff.  Yn 1721, doedd yna ddim heddlu i orfodi’r gyfraith nag unrhyw gyfundrefn sefydledig o gadw ‘rheol a threfn’ ; cyfrifoldeb preifat oedd cyhuddo person o drosedd, a chychwyn proses gyfreithiol yn ei erbyn (herbyn). Yr erlynydd (fel arfer y dioddefwr) oedd yn atebol am yr holl gost ; roedd yn fusnes ddrud ac allan o gyrraedd pobl gyffredin. Doedd yna yr un swyddog cyhoeddus ar gael i sicrhau bod hyd yn oed y troseddau mwyaf difrifol yn cael eu herlyn. Hefyd, ym mlynyddoedd cynnar y ddeunawfed ganrif, dim on canran fach  (llai na 25%) o’r rhai hynny oedd wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth oedd yn cael eu dedfrydu’n euog.
 
Felly, petai’r wraig wedi llwyddo i ladd  Evan Edward, mae’n anhebyg y câi ei chosbi. Yn y lle cyntaf, ni fyddai yna’r un tyst na thystiolaeth o’r drosedd ; yn ail, mae’n anodd dychmygu unrhyw un o drigolion yr Elenydd yn ymrwymo ei hun i gamau cyfreithiol ‘i sicrhau cyfiawnder i greadur meddw ac afradlon’ fel Evan Edward. Hefyd, roedd yn gyffredin ar y pryd i ddiffynnydd gael ei ddyfarnu yn euog ac yna cael pardwn, ac mae’n fwy na phosib mai dyna ddigwyddai i’r wraig hon petai yn cael ei hun yn ‘sefyll ei gwell’ mewn Cwrt y Sesiwn Fawr
 
Mae’n ddiddorol nodi nag oes yna dystiolaeth ddogfennol fod Evan Edward wedi ei grogi am ladd ei wraig.  Ond, rywsut, mae’n anodd credu iddo osgoi wynebu y gosg eithaf – mae’n debygol bod yr holl gymdogaeth yn falch cael cyfle i gael gwared arno.
 
Does dim sicrwydd beth yn hollol ddigwyddodd ar Ben y Bwlch, ond yn amlwg trechodd Evan Edward ymdrechion ei wraig i’w ladd, ac yna ymateb drwy ei thrawanu a’i chyllell ei hun. Os oedd yn dal i fod o dan ddylanwad y ddiod feddwol, mae’n hawdd credu iddo adael i’w wraig waedu ar yr hewl gan gredu, efallai, nad oedd wedi ei hanafu yn farwol. Ond, ar y llaw arall, efallai ei fod yntau yn credu na châi fyth o’i gyhuddo mewn llys na’i gosbi. Yn sicr, bu’r bedd yn wag y noson honno, fel mae wedi bod fyth ar ôl hynny.
 
Stori wedi ei chadw yn fyw ar lafar gwlad (am gyfnod ymhell dros ddwy ganrif) yw hon, ac o reidrwydd mae yna gryn dipyn o ansicrwydd ynglŷ â hi. Ond, wedi dweud hynny, mae elfennau o stori’r  ‘Bedd Gwag’ yn gredadwy iawn.
 
 

Nodiadau

 

[1]   Charles Arch, Byw dan y Bwa, Gwasg Gwynedd, Caernarfon (2005)

[2]   Charles Arch, O’r Tir i’r Tŵr, Gwasg Gwynedd, Caernarfon (2007)

Click button to return to the top of the page and to the navigation bar.