Page 3
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
Holl drigolion Cymru sy’n baeddu yn y byd,
Dymunwn arnoch wrando a chofio hyn o hyd;
Rhai ni roddant glust i rybudd, ond beunydd i bob bai,
A fydd yn wban obry gan waeddi “Och!” a “Gwae!”
Duw a’n cadwo hwyr a bore rhag dilyn llwybrau llid,
Mae yma rai’n dioddef am eu beiau yn y byd;
Os carwn ddrwg ar ddaear bydd ‘difar ddydd a ddaw,
A’r enaid bach ei boeni dan lid ar aswy law.
Am bentre Rhydfendigaid bydd coffa yn ddible,
Bu gwaith yr hen gryf-arfog yn llidiog yn y lle;
Wrth wrando ar y gelyn a’i ddilyn efo’i ddawn,
Daeth yno ddau o ddynion i ddiwedd creulon iawn
Hwy aethant ar ryw noswaith mewn llidiaeth eithaf llym,
A’r gydwybod wedi ei serio yn ffaelu deffro dim,
I gyfarfod Thomas Evans a’i fwrddro yn y fan,
Wrth ‘mofyn meddyginiaeth i’w anwyl blentyn gwan
Thomas Price ddywedai mewn geiriau lawer gwaith
Gwnae fwrddro Thomas Evans cyn diwedd pen ei daith;
Apeliai ei gym’dogion “O plyga, gweddia ar Dduw,
Na foed it’ feddwl hyny, O, fachgen clafaidd clyw.”
Ond Thomas ni wnae ‘styried am drag’wyddoldeb maith,
Ond temptio’i frawd-yn-nghyfraith ryw noswaith at y gwaith;
Dywedai Thomas, “Llidiwch, na fyddwch ddim mor llaith,
Nid oes un gŵr yn unlle a’n gweliff wrth y gwaith.”
‘Roedd yno ŵr yn gweled, a’i lygaid ymhob man,
Fe ddaeth a hi i’r amlwg, i olwg cryf a gwan,
Ac yno yn lle balchder, yn drymder mawr aeth hi,
Cwnstabli a ddaeth yno a’i ffeindio yn y tŷ.
I’r carchar mawr fe’u cyrchwyd, ni hiriwyd dim yn hir,
I Aberteifi fwyngar, sef carchar sound y sir,
Ac yno caent eu cynal nes i ddydd eu treial dd’od,
Un yn dair ar ddeg ar hugain a’r llall yn ddeunaw o’d
At Tomos daeth pioden, gan ‘sgrechain ar y dydd,
I roddi iddo arwydd a rhybudd na ddoi’n rhydd;
Fe ffystodd hon y ffenest’ mewn gorchest mawr a stŵr,
Fel un fuasai’n gwaeddi “Mai’i golli gae y gŵr”.
Fe ddarfu’r Judge ddywedyd, a’r Jury bob yr un,
Na chlywsant yn eu bywyd fath laddfa ddrwg ar ddyn,
O’r weithred ddyrus ddiriaid mae synied mawr a sôn,
O dref Caerdydd mae cwyno hyd ynys fwyn Sir Fôn.
11
12
13
14
15
16
17
18
19
Dywedai’r ynad, Euog, ( a’e Rheithwyr gydag e)
I gael eu dienyddio a’u llarpio yn y lle;
Y bachgen oedd yn gweddio yn ddyfal iawn ar Dduw
Am faddeu holl feiau er mwyn y Ceidawad gwiw.
Wrth esgyn ar yr ysgol fe waeddai’n groew ei gri,
Gan ddweyd , O nhad, O nhad, pa fodd wynebwch fi
Pan b’om yn nhrag’wyddoldeb ger bron y Barnwr pur
Chaiff celwydd ddim ei dderbyn un gronyn, ond y gwir
Dduw, y Tad bendigaid, derbyn fy enaid i ,
Er mwyn y Gŵr fu farw ar fynydd Calfari,
Pe cawn i ‘chydig amser i erfyn Brenin nef,
Er crog fy nhad i’n rhwyog, trugarog ydyw Ef.
Pe rhoddech im’ fy mywyd er mwyn y Meichiau mawr,
Mi weddiwn a chlodforwn tra byddwn ar y llawr,
Pe cawn i ond pythefnos neu wythnos fod yn fyw,
Mi fyddwn ar fy ngliniau yn gweddio Iesu gwiw.
Pob peth drwy’r byd foddlonai os cae e ddydd neu ddau
I weddio ar yr Arglwydd am faddeu iddo’i fai,
Er cymaint oedd e’n ddeisif ei golli gadd e yn hy,
Pwy wyr na i’r Iesu wrando ar ei gri.
Y ddau a gadd eu colli yn Aberteifi fwyn,
A’u cyrff eu tori’n ufflon, pwy galon fydd heb gwyn?
Y fam sydd am ei phlentyn a’r wraig sydd am ei gŵr,
A rhei’ny hwyr a boreu yn colli’r dagrau d’wr
Mae’n drymder mawr ar wraig sy a’i phlentyn gwan, tlawd,
Un a oedd iddi’n wr, a’r llall iddi’n frawd,
Mae hono yn ei gwely yn glafaidd iawn, mi wn,
Yn gwaeddi am ei phriod, tro hynod iawn oedd hwn.
Yr wythfed dydd o Ebrill y buont ar y pren,
Y flwyddyn oed ein Prynwr, Llywodraethwr dae’r a nen,
Rhoi deunaw cant yn gryno, rhof eto ddwy ac un,
A phedair blwydd ar bumtheg, wiwdeg landeg lun.
O hen ac ifanc hefyd sy’ mewn bywyd yn y byd,
Deued pob enw’n ddigynwr at y Prynwr mewn pryd
Dymunwn fod hyn yn rhybudd i bawb sydd yma’n byw,
I weddio o’u calonau a chadw deddfau Duw