Page 4
|
Y Rhenaint mwynion gweddus, a’r ie’ngctyd grymus glân, Dymunai Gymru’n gryno, nesau gael gwrando’r gân, Gan drysto bydd e’n rybudd i bawb o fewn ein gwlad I ddilyn brenin Silo, a pheidio tywallt gwa’d |
||
2 |
O achos gwrando’r gelyn, heb gofio Duw na’i ras O fewn i blwyf Tregaron, digwyddodd gweithred gas, Sef mwrdro Thomas Evans a’i dorri’i gyd yn sarn A’i gorph oedd wael ei weled, a’i enaid aeth i’r farn. |
||
3 |
‘Nol gwel’d yr olwg ffiaidd a’r gwaith barbaraidd cas Fe godai’r wlad yn gryno gael ffeindio’r mwrddwyr ma’s A thri a a’wd i’r carchar Aberteifi sir Mewn hei’rns y gadawyd hwy’n soundion dan gloiondewrion dur. |
||
4 |
Buon bedwar mis ac wythnos yn waitio’r Sessiwn fawr, Ond gwell fuasai iddynt erioed heb wel’d yn awr Fe farnai’r Judge a’r Jury ro’i terfyn ar eu taith Gan dd’weud mai marw’n union oedd gyfiawn am fath waith. |
||
5 |
A ffyn y curwyd Thomas hyd nes i’r nerth wanhau, Ac yno’n hanner marw ca’dd fod funidau rai, Pryd hyn yr oedd e’n llefain yn daer wrth orsedd Duw, Am iddo gael trugaredd trwy’r gweddaidd Iesu gwiw. |
||
6 |
John Evans geisiodd gyllell gan Thomas Price heb ble, Ac yno darfu dorri llinynau’i arrau fe Esgyd fain a phedol oedd am ei droed e’n siwr A honno ddarfu droedio nes briwio pen y gŵr |
||
7 |
Yn ol cyflawni’r weithred heb ofn Duw na’i fraw Fe ddarfu’r tri gytuno ei daflu dros y claw’ Ac yno fe’i gadawyd i orwedd yn ei wa’d Ond barn ein Duw ddilynodd ar gyhoedd yn ein gwlad |
||
8 |
Hen gweryl oedd yr achos, nid newydd gwympo ma’s Ac ofn datguddiai Thomas rai o’u dichellion cas Ond Evan Evans ydoedd yr achos o’r holl waith, A’i fab a’r mab yn nghyfraith ro’ws derfyn ar ei daith |
||
9 |
Rhy gul y gwna’wd y grog- A Thomas Price yn gyntaf ga’dd farw am ei fai, Pan oedd e’ ar yr ysgol, yn uchel gwaeddai fe, “Oni bu’sai Evan Evans ni ddaethwn byth i’r lle.” |
||
10 |
Ca’s hongian ‘nol y gyfraith ar grog- Ac wedi’n darfu’r hangman i dorri’i gorph i lawr A’i gario wna’wd drachefn yn ol i’r carchar cas A John mewn dagrau chwere pryd hynga’i alw ma’s |
||
11 |
‘Roedd John fel dail yn crynu wrth nesau at y pren Gan wel’d y funud olaf o’i oriau’n dod i ben Ei lef a’i griddychrynai’r edrychwyr ar y llawr Nes iddo gael ei symud i’r tragwyddol- |
12 | Doctoriaid a’i hagorodd hwy wedi’n yn y lle, Fel gallai fod yn rhybudd i bawb oedd yn y dre’, Tom Price oedd ddeg ar hugain, a John yn ddeunaw oed, Ni fu dim mwy trueni yn Aberteifi erioed. |
13 | Ei dad oedd yn y carchar yn edrych ar ei fab, A’r gorden am ei wddf yn siampl i’r holl wlad Gofynai “Ai newydd g’lymu i fynu ‘roeddent hwy?” A’i galon wedi myned yn galed heb ddim clwy’. |
14 | Oh! dadau a mamau anwyl gwnewch weddio’n daer ar Dduw Am ras i’ch plant a chwithau tra fyddoch yma’n byw A chofiwch am John Evans fel pregeth fawr i’n gwlad Cael mynd i’r pren i ddyoddef am wrando geiriau’i dad |
15 | Eu gweled wrth y gorden oedd rydudd mawr i’n gwlad Eu gwel’d hwy yno’n ddarnau yn gorwedd yn eu gwa’d ‘Doedd hyn ddim mwy na chysgod at wel’d yr enaid noeth Yn myn’d i’r farn ro’i cyfrif o flaen y Barnwr doeth |
16 | Beth os oedd drws trugaredd yn giaidd wedi’i gau A hwythau’n cael eu bwrw dros byth i’r ffyrnig ffau? Pryd hyn roedd mwy o golled na cholli’r bywyd gwiw I golli’r nefoedd hawddgar a cholli wyneb Duw. |
17 | Ond etto rwy’n gobeithio i Dduw o’i dirion ras’ I faddeu’ holl bechodau cyn treulio’n horiau ma’s Mae’n gysur i ni’n gyson tra par’o dyddiau’n hoes I’r Iesu faddeu hunan i’r lleidr ar y groes. |
18 | Y fam ar ol ei phlentyn sy’n wylo nos a dydd A’r wraig ar ol ei phriod sy i’w chanfod ddigon prudd Eu ffryns a’u mwyn gyfeillion a’u holl berth’ynasau’ gyd Mae’n drwmaidd ganddynt gofio modd cawsant ’mado a’r byd |
19 | Fe ddylai Evan Evans ofalu nos a dydd I ddiolch i Dduw bob amser am gael ei draed yn rhydd A rodio llwybrau Sion a dilyn deddfau Duw A pheidio gwrando’r gelyn byth mwy tra byddo byw. |
20 | Yr wythfed dydd o Ebrill y cawsant farwol glwy’ Un fil wyth cant ac ugain a chyfri’ etto ddwy, Gobeithio bydd e’n rybydd i bawb mewn tre’ a gwlad I geisio cael trugaredd trwy rinwedd mawr y gwa’d |
21 | Yn awr ‘rwy i’n terfynu trwy roddi heibio’m cân Gwnewch chwithau dreio teithio tua dinas Salem lân A pheidiwch gwrando’r gelyn na rhodio’i llwybrau ef’ Ond ceisiwch Dduw mewn amser f’ech dwg i deyrnas nef. |
I fynd ‘nol at y Gân Alarus Gyntaf cliciwch Tudalen 3 islaw.
Mae copi o’r faled hon ar gael yn y llyfrgelloedd canlynol : Llyfrgell y Sylfaenwyr, Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan a Llyfrgell Gymraeg, Phrifysgol Cymru, Bangor