Llofruddiaeth

ar

Ben y Bwlch

SN7763

Bron ganrif yn ôl, ysgrifennodd Daniel Davies (Ton) am drigolion yr Elenydd [1] :
Nid oes bobl mwy heddychol a mwy ufudd i gyfreithiau’r wlad na thrigolion y parthau tawel hyn . . . nid oes yr un heddgeidwad yn cartefu yn un o’r cymoedd, nac angen am dano ; nid oes yma dafarn ychwaith o fewn milltiroedd lawer

Rhan o fynyddoedd   yr  Elenydd

Golygfa o Ben y bwlch yn arddangos isel-diroedd yn y pellter, tu hwnt  i Bontrhydfendigaid

Photo © Roger Kidd (cc-by-sa/2.0)

 

 

Daniel Davies (Ton)

(1840-1916)

 
 Gwr wedi ei eni yn Nhregaron a’i fagu yn Noldre oedd Daniel Davies (Ton). Bu am gyfnod byr yn cadw ysgol Gorsneuadd uwchlaw Tregaron ond, pan oedd yn ddwy ar hugain oed, symudodd i gymoedd y de, ac yno y treuliodd weddill ei oes. Bu farw yn 1916 yn 76 mlwydd oed.Ysgrifennodd lawer i gylchgronau’r cyfnod gan gynnwys nifer o erthyglau ar hanes lleol sir Aberteifi. 
 
Bron ganrif yn ôl, ysgrifennodd Daniel Davies (Ton) am drigolion yr Elenydd [1] :
Nid oes bobl mwy heddychol a mwy ufudd i gyfreithiau’r wlad na thrigolion y parthau tawel hyn . . . nid oes yr un heddgeidwad yn cartefu yn un o’r cymoedd, nac angen am dano ; nid oes yma dafarn ychwaith o fewn milltiroedd lawer
Ceredigion’ (ei enw ef ar diroedd yr Elenydd) yn agos iawn at ei galon. Hwyrach bod hyn wedi lliwio ychydig bach ar ei ddelwedd o bobl y mynydd ; y gwir yw fod yna enghreiffitiau rheolaidd o dor-cyfraith ar yr Elenydd a’r cyffiniau dros y dair canrif ddiwethaf. Yn 1796. disgrifwyd Pontrhydfendigaid, pentref sydd bron yn rhan o’r Elenydd, fel :
. . a village of no great repute, wherein dwell not many honest labourers

Er bod Daniel Davies yn or-deyrngar, ar adegau, i ‘bobl y mynydd’, mae arnom ddiolch iddo am gofnodi nifer o hen storïau diddorol am yr Elenydd. Mae ganddo un stori arbennig yn dyddio nôl i chwarter cyntaf y ddeunawfed ganrif, tua 1721.

Yn ôl Daniel Davies roedd yna ŵr o’r enw Evan Edward William a’i wraig yn byw ym Moelprysgau. Mae’n debyg mai creadur meddw ac afradlonoedd Evan Edward. Un tro wedi bod yn yfed am ddyddiau mewn tafarn ym Mhontrhydfendigaid, fe aeth ei wraig i’w gyrchu adref. Ar y ffordd nôl i Foelprysgau, â wedi cyrraedd lle o’r enw Blaenglasffrwd, mynnodd Evan Edward aros yno nes iddi dywyllu. Wedi i’r ddau ail ddechrau ar ei siwrnau a chyrraedd Pen y Bwlch, tynnodd Evan Edward gyllell allan o’i boced a thrywanu ei wraig. Aeth ef yn ei flaen gan ei gadael yn y man ar lle ; ceisiodd hi fynd nôl i Blaenglasffrwd ond bu farw cyn mynd fawr iawn o’r fan lle cafodd ei thrywanu.

Codwyd carnedd o gerrig  gan y cymdogion i fod yn goffadwriaeth o’r weithred waedlyd yma ; ac yn wir mae yna olion twmpath cerrig i’w weld heddiw, sydd yn atgyfnerthu stori Daniel Davies (ond mwy am hyn nes ymlaen)
 

 

Evan Jones

(1850-1926)

 
 

Treuliodd  Evan Jones, Ty’n-y-Pant ei oes yn ymddiddori mewn hanes, hynafiaethau, dywediadau, cymeriadau, traddodiadau ac arferion ei fro, gan eu cofnodi’n fwriadol cyn iddynt fynd yn anghof Yn 2009, cyhoeddodd Herbert Hughes ddetholiad o bapurau Evan Jones mewn llyf o dan yr enw ‘Cymru Evan Jones’ [2]

 

Mae Evan Jones hefyd wedi adrodd hanes Evan Edward. Yn ôl yr hanes hwn, roedd Evan Edward, ei wraig a’i frawd di-briod yn cyd-fyw ym Moelprysgau. Roedd Evan Edward a’i frawd wedi cyd-etifeddu’r lle ar ôl marwolaeth eu tad. Mae’n debyg nad oedd Evan Edward yn rhy hapus gyda’r sefyllfa hynny. Un diwrnod pan oedd y ddau yn golchi eu ceffylau yn afon Claerwen, gwthiodd Evan Edward ei frawd i bwll dwfn, ac wedyn taro ei  ben a charreg wrth iddo lusgo ei hun i’r lan.

Eto, yn ôl Evan Jones, daeth masnachwr teithiol i letya dros nos ym Moelprysgau. Yr oedd Evan Edward a’i wraig yn tybied fod y dyn yn cario cryn dipyn o arian yn ei fag teithio, ac fe aethant ati i’w ladd a dwyn ei eiddo. Dywedid eu bod wedi claddu’r masnachwr o dan lawr y tŷ, ac na ddaeth neb i wybod am y drosedd tan ar ôl i Evan Edward lofruddio’i wraig.

Mae stori Evan Jones am lofruddiaeth y wraig ychydig bach yn wahanol i’r un gan Daniel Davies.  Dywed  Evan Jones ei fod yn arferiad cyson gan Evan Edward ar y Suliau i fynd i Bontrhydfendigaid, gan ddweud wrth ei wraig ei fod yn mynd i’r eglwys. Ond roedd y wraig yn ddrwgdybus, a phan fethodd Evan Edward ddod nôl un dydd Sul, fe aeth yr holl ffordd i’r pentref i chwilio amdano. Cafodd afael arno yn y dafarn gyda menyw wael ei chymeriad. Llwyddodd i’w berswadio i ddod adref gyda hi, ac fe welwyd y ddau yn mynd heibio i Blaenglasffrwd – hi ar gefn poni ac yntau yn cerdded. Cyn cyrraedd Pen y Bwlch, roedd y ddau yn marchogaeth y poni, gyda’r wraig tu ôl i’w gŵr. Mae’n debyg iddi hi ddechrau dwrdio Evan Edward am ei anffyddlondeb, ac iddo golli ei dymer a thynnu cyllell o’i boced a’i thrywanu yn ei chylla. Ar ôl iddi syrthio oddi ar y poni, fe’i gadawodd i waedu ar yr hewl, gan gredu, efallai, nad oedd wedi ei hanafu yn farwol. Deuwyd o hyd i’r corff y bore canlynol ; fe ddywedir fod  mil o ddynion wedi ymgasglu  cyn i’r celain gael ei symud, ac iddynt godi carn o gerrig i ddynodi man y digwyddiad. Dywed Evan Jones fod y llofrudd wedi :

. . . ei ddal ar unwaith, a’i draddodi i garchar yn nhref Aberteifi, lle y gwnaed ef yn euog am y weithred, ac y cafodd ddioddef eithaf y gyfraith. Cyn ei ddienyddiad, darfu iddo gyfaddef yr holl fanylion . . . am y tair llofruddiaeth.

Rhaid pwysleisio bod llofruddion cyn eu crogi o dan bwysau enfawr i “farw’n dda’ er mwyn sicrhau maddeuant gan Dduw. Rhan o “farw’n dda” oedd cyffesu i droesddau eraill, ond doedd y cyfaddefiadau hyn (o dan bwysau) ddim yn ddilys bob amser.

Mae yna Evan Jones arall wedi cofnodi stori Moelprysgau mewn llyfr arbennig o diddorol o’r enw ‘Cymdogaeth Soar-y-Mynydd’ [3]. Yn ôl ei adroddiad ef, dim ond dwy lofruddiaeth ddigwyddodd ym Moelprysgau.

Er ychydig amrywiaeth, mae storiau’r tri awdur rywbeth yn debyg, ond dim yn hollol gyson. Mae yna fân wahaniaethau sydd yn awgrynu, efallau, nad oes yr un awdur yn rhy sicr o’r amgylychiadau a’r ffeithiau. Dyna pam fod y fersiwn nesaf yn werth ei chofnodi. Atgofion sydd yma gan berson sydd yn adnabod yr ardal cystal a chefn ei law – o Gwm Glasffrwd i Towy Fechan, Moelprysgau a Garreglwyd, ac i fynny i Claerddu, Esgair Garthen a Chlaerwen. Mwy na hynny, mae wedi adnabod am flynyddoedd lawer hen deluoedd y mynydd, ac mae ei  hanes ef o ‘r digwyddiad ym Moelprysgau wedi ei seilio ar storïau’r pobl yr ucheldir, yn fwyaf arbennig, hen deulu Blaenglasffrwd. Cliciwch yma i ddarllen stori y ‘bedd gwag’ gan Charles Arch.

 

 

Evan Jones (Llanfarian)

Mae Evan Jones yn hanesydd lleol  o fry ac yn awdur nifer o lyfrau gan gynnwys Cymdogaeth Soar-y-Mynydd, Ar Ymylon Cors Caron, Cerdded Hen Ffeiriau a Balchder Crefft. Yn ei adolygiad o Cymdogeth Soar-y-Mynydd (Barn, Chwfror 1977), dywedodd Iorwerth Peate fod Evan Jones yn ysgrifennu Cymraeg syml a graenus gan ddefnyddio termau technegol crefftau cefn-gwlad yn naturriol ac i bwrpas.

 
   

Notes

[1]  D. Davies (Ton), Gwyllt Diroedd Ceredigion’ Cymru, 191
[2]  Herbert Hughes (Golygydd), Cymru Evan Jones, Gwasg Gomer, 2009
[3]  Evan Jones, Cymdogaeth Soar-y mynydd, Gwasg Christopher Davies, Abertawe, 1979

Click button to return to the top of the page and to the navigation bar.