Mary Williams
Pant-y-carnau
Ychydig dros dair milltir i’r dwyrain o Bontrhydfendigaid, ar y ffordd i Flaenglasffrwd, Penbwlch, Moelprysgau a Towyfechan roedd yna, ar un adeg, hen anedd o’r enw Pant-
Rhan o fynyddoedd yr Elenydd
Yr olygfa o’r fan lle safai hen anedd o’r enw Pant-
Ychydig dros dair milltir i’r dwyrain o Bontrhydfendigaid, ar y ffordd i Flaenglasffrwd, Penbwlch, Moelprysgau a Towyfechan, roedd yna, ar un adeg, hen anedd o’r enw Pant-
Bu hi a’i gŵr yn gwasanaethu am flynyddoedd lawer ym Mhantyfedwen, un o gartefi bonedd yr ardal sydd o fewn hanner milltir i Ystrad Fflur. Roedd Mary Williams yn fawr ei pharch ym Mhantyfedwen ac, yn wir, un o ddisgynyddion teulu Pantyfedwen (gwraig Mr J Maurice Davies, Plas Antaron, Aberystwyth) a wnaeth drefnu gofal i Mary Williams yn ei blynyddoedd olaf.
Mae’r llun isod wedi ei dynnu yn agos i’r fan lle safai Pant-
Ysgrifennwyd mwy nag un cofiant i Mary Williams yn rhai o bapurau’r cyfnod. Mae dau gopi i’w cael yn LLGC (MS 6974) ond does dim nodyn yn dweud lle yn hollol y cyhoeddwyd hwy. Dyma grynodeb o’r ddau gofiant. Mae ychydig bach o anghysondeb yn y cofiannau, ond yr un darlun a geir gan y ddau ohebydd.
A Centenary Biography
Died January 1st 1876, Mary Williams, late of Pant-
Mrs Williams had lived for many years past at Pantyfedwen (mwy na thebyg mai yn un o’r adeiladau oedd yn gysylltiedig a’r prif adeilad), the property of Mr J.Maurice Davies, of Antaron, Aberystwyth, having been attached to Mrs Davies’ family since her childhood.
Marwolaeth hen wraig 104 OED
Nid yn aml y gwelir tri ffigwr ar arch neb y dyddiau hyn, ond gwelwyd hynny yr wythnos ddiwethaf yn Sir Aberteifi. Cawsom y manylion mewn llythyr cyfrinachol. Pan oedd y flwyddyn 1785 yn ochneidio ar ei gwely angau ac yn tynnu ei thraed ati i farw, ac ar waith 1876 yn cael ei genedigaeth, yr oedd hen chwaer o’r enw Mary Williams, Pantyfedwen, yn ymyl Ystrad Fflur (Strata Florida), yn tynnu ei hanadl am y tro diwethaf yn y bywyd presennol. Claddwyd hi y Mercher canlynol, Ionawr y 5, ym mynwent yr hen Fynachlog. Pregethwyd yn ei chladdedigaeth gan Thalamus, oddiar y geiriau “Pa ŵr a fydd byw ac ni wêl farwolaeth?” Ei hoedran ar yr arch oedd 102, ond cafwyd allan wedi ei chladdedigaeth ei bod yn 104 oddiar mis Tachwedd. Merch oedd i Henry Morgans, Dolfawr, ger Trawscoed (Cross-
Ysgrifennodd ryw awdur, dienw arall, stori ddiddorol am Mary Williams yn cerdded tair milltir i lawr i shop Mary Morgan, Pontrhydfendigaid ar ddiwnod ei phenblwydd yn gant oed. Gofynnodd Mary Morgan iddi ‘Sut ydych chi’n teimlo heddi Mary Williams?’ Daeth yr ateb yn syth, heb oedi ‘Wel, wir, rwy’n dipyn cryfach yn dechre’r ail gant na’r un cyntaf’. [Welsh Gazette, Ionawr 1933]. Yn amlwg doedd Mary Williams ddim yn un oedd yn dioddef o Alzheimer’s
[1] | Mae’n weddol sicr bod Mary Williams yn un o’r rhai cyntaf i’w bedyddio yn y Bont drwy drochi mewn afon yn 1834, hynny yw y flwyddyn y corfforwyd Eglwys Carmel. Dyma gofnod y Parch Robert Roberts, gweinidog cyntaf Carmel
Ar ôl y bedyddio cynnar ac yna corffori’r Eglwys, aeth yr aelodau ati i adeuladu ‘ty cymmwys i wasanaethu’r Arglwydd ynddo’. Cynhaliwyd y cyfarfodydd agoriadol yn yr addoldy cyntaf yn mis Rhagfyr 1837. |
Sul y Bedydd yng Nghapel Carmel tua can mlynedd ar ôl corfforu’r Eglwys yn 1834.
[2] | Pregethwyd yng nghladdedigaeth Mary Williams gan y Parch J.T. Morgan (Thalamus), ar y geiriau “Pa ŵr a fydd byw ac ni wêl farwolaeth?” J.T. Morgan oedd y trydydd gweinidog yng Ngharmel. Mae’n debyg ei fod yn ŵr galluog fel bardd a darlithydd. Treuliodd gyfnod hir yn America ond yng Nghymru y claddwyd ef. |
[3] | Roedd John Maurice Davies o Antaron yn ŵr bonedd, yn perthyn i deulu y Richards o Benglais, a hefyd i’r Arglwydd Ystwyth o Danybwlch. Hefyd mae’n debyg ei fod â chysylltiad gwaed â Lewis Morris, Penbryn, Goginan. Cafodd rhan o’i addysg yn Rhydychen. Roedd yn fargyfreithiwr ac yn grwner i sir Ceredigion. |
Click button to return to the top of the page and to the navigation bar.