Edward Richard

Tafarn y Brithyll

Ystradmeurig

Tudalen 3

Walter Davies (Gwallter Mechain) a’r bwythyn bach to-gwellt

Ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif, apwyntiwyd Gwallter Mechain i adolygu cyflwr amaeth yng Nghymru. Fel rhan o’r arolwg, ymwelodd a Cheredigion yn nhymor yr haf 1802. Er nad oedd addysg yn rhan o’i briff, mae’n siwr iddo, ar ôl cyrraedd ardal Tregaron, alw ar John Williams yn Ystradmeurig. Roedd y ddau yn ysgolheigion o fri ac yn rhannu llawer o’r un diddordebau, a gwyddys bod gan Gwallter Mechain gryn ddiddordeb yn ysgol Ystradmeurig. Mwy na thebyg mai John Williams dywedodd wrth Gwallter Mechain am Bronmeurig a, hefyd, am Edward Richard a’r ‘small thatched cottage‘. Felly, mae nodiadau Gwallter Mechain yn debygol o fod yn gywir.

Yn adroddiad John Williams am ei gyn-athro [29], ceir ambell awgrym bod Edward Richard yn byw ar ben ei hun, a’r whahan i’w fam. Cyfeiria, John Williams at gartref Edward Richard mewn un man fel ‘his own house’, ac mewn man arall mae’n dweud ei fod yn byw bywyd syml a chyffredin ‘and his good mother took care of his house and made it comfortable for him’.

Gwyddys bod Edward Richard, pan oedd yn ŵr ifanc, wedi treulio nifer o flynyddoedd yn addysgu a myfyrio ar ben ei hun am, o bosibl, bump i chwech mlynedd. Yn ol Osborne Jones [30].

To acquire the knowledge of the Classics, which Richard undoubtedly had in order to fit himself to train youths for the professions, would, it is suggested, take at least four years. If we add to this the acquisition of a knowledge of Theology . . . training in Mathematics and other subjects, it is not unlikely that he studied for five to six years.

Heb os, roedd gan y teulu y cyfoeth i’w gynnal yn ystod y cyfnod hyn, ac fe osododd yntau dasg heriol iddo ef ei hun. Yn ôl nifer o adroddiadau, astudiau yn yr eglwys, ac y gwelid ef yno am bedwar o’r gloch pob bore, ym mhob tywydd, gaeaf a haf, yn ddwfn-fyfyrio. Hwyrach bod y stori yn rhannol wir, ond mae’n amheus mai dyma oedd ei unig astudfa. Gwyddys bod gan y teulu gefndir hir o ddelio mewn eiddo [24], ac mae’n rhesymol disgwyl bod Edward Richard wedi sicrhau annedd iddo’i hun yn gynnar iawn yn ei fywyd. Roedd yn berson annibynnol, ac arno angen heddwch a thawelwch, ac mae’n  siwr iddo symud o Dafarn y Brithyll yn ddyn ifanc, ac i ble  gwell na ‘a small thatched cottage’. Ond ymhle roedd y bwthyn hwn?  Awgrymodd Osborne Jones yn 1934 [8] – ar sail yr hyn a glywodd gan oedolion yr ardal –  bod tŷ Edward Richard wedi ei leoli :

. . . below the present school-yard and adjoining the site of the modern roadway. It was a cottage, and it had a thatched roof and a door at one end of it. The historic cottage was demolished during the latter part of the last century, and its materials utilised to erect a modern building. During these operations the hearthstone of the old house was discovered, and within the last ten years or more, whilst ploughing the adjacent field close up to the wall which separates it from the roadway, a cobbled pavement was uncovered, which lay in front of the cottage

Er iddo newid ei feddwl cyn 1950, mae’n debygol bod Osborne Jones yn agos iawn i’w le yn y man cyntaf, a theg i’w casglu bod y bwthyn yn sefyll ar draws y ffordd i Dafarn y Brithyll, rhyw bymtheg llath neu lai i ffwrdd. Gellir dychmygu bod drws talcen i’r tŷ to-gwellt ac hefyd i Dafarn y Brithyll (Bronllan) –  i  hyrwyddo mynd a dod rhwng y ddau adeilad. Ac yn wir mae olion clir i weld  ar dalcen Bronllan (gweler y llun gyferbyn) yn ategu bod agoriad (drws) sylweddol wedi bod yno unwaith.

Wal-dalcen Bronllan

 (mae olion i’w gweld heddiw sydd yn awgrymu bod agoriad sylweddol yno unwaith [29])

Prif gasgliadau

Rhedai Gwenllian, mam Edward Richard, dŷ tafarn yn Ystradmeurig o’r enw Tafarn y Brithyll. Safai ar ochr y ffordd B4340 i Aberystwyth, lle mae tŷ  Bronllan heddiw. Mae’n debygol mai dyma lle roedd rhai o ddisgyblion preswyl Edward Richard yn lletya yn ystod eu hamser yn yr ysgol.

  • Cartref  Edward Richard oedd bwythyn bach to gwellt. Safai ar draws y ffordd i Dafarn y Brithyll, o dan iard yr ysgol, yn syth gyferbyn â phrif fynediad i’r Dafarn. Roedd  yn byw ar ben ei hun, yn hollol annibynnol.  Ei fam, oedd yn cadw tŷ iddo tra roedd hi byw, ond ar ôl iddi farw, roedd ganddo ‘wraig ar dâl’ yn gofalu am ei anghenion bob dydd [30].
  • Yn y ddeunawfed ganrif, rhaid mai dim ond pump neu lai o dai-byw oedd ym mhentref Ystradmeurig, hynny yw, o fewn cylch o ryw gan llath ar hugain o ddrws yr Eglwys. Pentre bach, ond gan mai’r Eglwys oedd canolfan bywyd cymdeithasol y plwyf, roedd yn lle prysur ; man cyfarfrod i chwarae a chystadlu, i wylio ymladd ceiliogod, ac i wledda, yfed a betio. Gellir bod yn sicr mai yn Nhafarn y Brithyll yr  ymgasglai’r clerigwr a’i braidd yn rheolaidd ar ôl gwasanaeth y Sul.

Nodiadau

 

[1]D. Emrys Evans, Y Beirniad, Cyfrol VII, 1917, tud 252
[2]Aneirin Lewis, Ysgrifau Beirniadol X, Golygydd J E Caerwyn Jones, Gwasg Gee, 1977, tud 267.
[3]  Saunders Lewis, A School of Welsh Augustans, Cedric Chivers, Bath, 1924, tud 55.
[4]D G Osborne Jones, Edward Richard of Ystradmeurig, Caerfyrddin, 1934.
[5]Sauders Lewis, A School of Welsh Augustans, Cedric Chivers, Bath, 1924, tud 56.
[6]Yr Eos : sef gwaith prydyddawl Mr Edward Richard o Ystradmeurig yn Sir Aberteifi, Llundain, 1811.  Mae yn y Llyfrgell Ganolog Caerdydd gopi unigryw o’r llyfr hwn ; dyma’r unig gopi lle mae’r rhagair (adroddiad byr o fywyd Edward Richard) wedi ei lofnodi, mewn inc, gan yr awdur, sef John Williams, olynydd Edward Richard. Cyfeirir ato fel ‘Yr Hen Syr’ a  bu’n brifathro ar yr ysgol yn Ystradmeurig o 1777 i 1818.
[7]Yr Eos : sef gwaith prydyddawl Mr Edward Richard o Ystradmeurig yn Sir Aberteifi, Llundain, 1811.  Mae yn y Llyfrgell Ganolog Caerdydd gopi unigryw o’r llyfr hwn ; dyma’r unig gopi lle mae’r rhagair (adroddiad byr o fywyd Edward Richard) wedi ei lofnodi, mewn inc, gan yr awdur, sef John Williams, olynydd Edward Richard. Cyfeirir ato fel ‘Yr Hen Syr’ a  bu’n brifathro ar yr ysgol yn Ystradmeurig o 1777 i 1818.
[8]D G Osborne Jones, Welsh Gazette, September 28, 1950.
[9]D Emrys Williams, Llgc, Archifau a Llawysgrifau, Llawysgrifau Hendrefelen, 1961.
[10]Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Archifau a Llawysgrifau, Llawysgrifau Hendrefelen, 1751, Rhif 236.
[11]Cyfeirir at fam Edward Richard fel Gwen Edward, widow. Mae’n ymddangos, naill ai ei bod wedi cadw ei henw teuluol ar ôl priodi Thomas Richard, neu iddi newid nôl i’w henw teuluol yn dilyn marwolaeth ei gŵr. Mae’n ddiddorol sylwi bod Edward Richard wedi etifeddu enwau teuluol ei dad a’i fam
[12  A gentleman as eminent for his talents as he was for the principles which guided them . . . He was bred to the law, which his comprehensive mind obtained a thorough insight into, in a degree few men could equal. The clearness and perspicuity of his genius, and his manner of expressing himself, were the admiration of every one who consulted him . . . his eloquence caused him to be a fascinating companion in whatever society he intermixed . . . being a man endued with the soundest virtues, talents, and integrity ; and indefatigable in the transaction of any business which engaged his capacious mind. (William Owen Pughe, Cambrian Register, Cyfrol 3, p 221-2)
[13]D G Osborne Jones, Edward Richard of Ystradmeurig, Caerfyrddin, 1934, tud 9.
[14]Bu Thomas Richard farw rywbryd tua diwedd tua diwedd y flwyddyn 1750 neu ddechrau 1751 pan oedd yn ei chwedegau. Gwaith heb ei gyhoeddi gan yr awdur.
[15]Gweler cyfeirnod rhif 11
[16]Oddi mewn i gylch o ryw gan llath ar hugain o ddrws yr eglwys.
[17]D G Osborne Jones, Edward Richard of Ystradmeurig, Caerfyrddin, 1934, tud 5
[18]E D Evans, Y Parchedig Thomas Jones, Creaton (1752-1845) : arloeswr anghofiedig y Feibl Gymdeithas, Cylchgrawn hanes (Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd), Cyfrol 32, 2008, tud 76.
[19]Roedd chwaraeon y Sul yn boblogaidd ym mhob ardal o’r Sir, ac mae’n ddiddorol nodi bod Daniel Rowland, yn ystod y blynyddoedd cynnar ei weinidogaeth yn Llangeitho (cyn ei droedigaeth) yn ymuno yn gyson â’u gyd-blwyfolion yn y pleserau hyn. Gweler ‘Daniel Rowland’ gan D J Odwyn Jones, Gwasg Gomer, 1938.
[20]Er enghraifft, ceir tystiolaeth bendant yn rhai o lawysgrifau Hendrefelen, bod Thomas Richard ac Edward Richard yn delio mewn eiddo a benthygiadau morgeisiol.
[21]D G Osborne Jones, Edward Richard of Ystradmeurig, Caerfyrddin, 1934, tud 51
[22]D G Osborne Jones, Edward Richard of Ystradmeurig, Caerfyrddin, 1934, tud 43
[23]Nid yw llofnod James Lloyd yn cydweddu â’r ysgrifen yn y brydles. Ar y llaw arall, mae’n amlwg bod arwyddnod Edward Richard yn hollol gyson â llawysgrifen y person a ysgrifennodd y ddogfen. Hefyd, mae’n gyson â’r ysgrifen a geir mewn dogfennau eraill gan Edward Richard.
[24]John Williams, Yr Eos, Llundain 1811.
[25]Sgwrs breifat â Mrs Mari Osborne Arch, nith i D G Osborne Jones.
[26]Gwallter Mechain (Walter Davies), A tour in South Wales (1802), LL.G.C. Llawysgrif 1730B.
[27]John Williams, Yr Eos, Llundain 1811.
[28]D G Osborne Jones, Edward Richard of Ystradmeurig, Caerfyrddin, 1934, tud 13.
[29]Mr Mansel Osborne Jones, nai i D G Osborne Jones, a fu’n gyfrifol am dynnu fy sylw at yr olion a welir ar wal-dalcen Bronllan.
[30]Wrth gwrs, rhaid cydnabod ei bod yn bosib mai cartref y teulu oedd y bwthyn bach to gwellt a bod y tŷ tafarn yn adeilad ar wahân. Ond, ar y llaw arall, mae’n llawer mwy tebygol bod Edward Richard wedi dymuno annibyniaeth yn gynnar yn ei fywyd.

              I fynd nôl i’r tudalennau cynt, cliciwch y dudalen briodol