Edward Richard
(An artist impression)
Pan ysgrifennodd Edward Richard ei gân gyntaf i bont Rhydfendigaid (1760), roedd dadl ynghylch pwy ddylai fod yn gyfrifol am y gost o adeiladu’r bont a’i chadw a’i chynnal ar ôl hynny –
Drwy gymorth cynrychiolwyr o deuluoedd bonedd Trwscoed, Nanteos a Mabws, pasiwyd yn y ‘Llysoedd Chwarter’ (Quarter Sessions) mai’r Sir fyddai’n gyfrifol yn hytrach na’r plwyfi. Fel canlyniad, mae Edward Richard, yn ei gân gyntaf, yn talu teyrnged i’r teuluoedd hyn. Hefyd mae’n annog rhyddeiliaid a tenantiaid yr ardal i wneud yr un peth a chydnabod eu dyled i’r uchelwyr am ddarostwng eu hunain i helpu’r werin-
Am Bont Rhyd-
Ar fyr cewch ei gweled mor dambed a’r dydd,
Fel castell gwyn amlwg, goreulan i’r amlwg,
Neu gadwyn i fwnwg afonydd.
Hi saif yn ei hunman, y Bont ar ddau bentan,
Yn hynod ei hunan, a llydan ei lli’,
Tro Banc Pen-
A ffrydiau mewn tonnau’n mynd tani
Gwna’r penter’ mwyn serchog, tros fyth yn gyfoethog,
Wrth ddwyn yr ariannog yn llwythog i’r lle;
A phan elo’n athrist heb ddim yn eu ddwygist,
Hi helpa’r dyn didrist fyn’d adre’.
Os digwydd ar brydiau, fod llif dros y dolau,
A gwragedd y pentre’n eu crysau’n rhoi cri,
Geill cyfaill heb gafan, ar dw’llwch fyn’d allan,
Heb gwrdd âg un dafan o Deifi.
Bydd Dan yn ŵr cadarn a rhywiog i’r haiarn’
Gof arfog gywirfarn i’r dafarn pan dêl;
Ar gawsai lân gyson, o gerrig mwyn meinion,
Yn union o’r afon i’r efel.
Er gwneud hon yn ffyddlon, er mwyn y glân ddynion,
A rheiny’n gym’dogion da mwynion i mi,
Bydd Ned o’r Dre’‡ druan, ar fyrder mewn graian,
A llawer awff trwstan eiff trosti.
Gwyr Gwnnws a Charon, cydunwch fel dynion,
Cewch felly’n gyfeillion, wŷr dewrion a dwys,
A sefwch yn ffyddlon tra’ Pont dros yr afon,
A meibion o feibion i Fabwys
Mae eto le tirion, ei gofio fydd gyfion,
Yn llawn o gymdeithion hoff radlon a ffri,
Hir iechyd i’r achos, na welwyf mo’i wylnos,
Nac ёos Nanteos yn tewi.
Na weler ond hyny, ond hâf ar lan Teifi,
Na drain, na mieri, na drysni ar droed,
Na chafod na chwmwl yn blino ar ein meddwl,
Na sôn am aer trwsgwl i’r Trawsgoed.
Y credit a’r arian fy’n nafu Sion Ifan*,
Wrth yfed bob dafan yn gyfan o’i go’,
Pan drielio’r cyfeillgar ei geiniog yn gynnar,
‘Difeirwch diweddar daw iddo.
Y cyfaill caruaidd, a saer y maen mwynaidd,
Cais wella dy fuchedd o’r diwedd ŵr da;
Y dolur a’r dyli, o’th ledol a thlodi,
Yw’r cw’m’ni ddaw iti o ddiota.
Gwna cwrw a’r tobacco, i Garon† hir guro,
Yn llydan a llidio a bloeddio’n ŵr blin,
Try allan yn drylliau, y cerrig a’r caerau,
A seiliau’n holl greigiau’n hyll gregin.
Os cyll yr hen fachgen y ddiod o’i ddwyen,
Hoff liwgar mewn fflagen, a’r ddeilen o’i ddant,
Ni thal ei forthwylion un geiniog na’i gynion,
A’i ffyddlon ebillion a ballant.
‡ Ned o’r Dre oedd Edward Richard ei hun.
* Sion Ifan o Ystrad – y saer maen a gododd y bont.
† Sion Caron y mwynwr, a gloddiodd y cerrig ar gyfer
codi’r bont.
Wrth ddarllen yr ail gân, mae’n amlwg fod Edward Richard wedi cael ei siomi gan gynllun y bont, a’r ffordd y cafodd ei hadeiladu. Mae’n datgan ei ddig tuag at y pentref, yr adeiladwyr a, hefyd, ei hunan. Ar y llaw arall, mae’n amharod i fwrw yr un bai ar bobl Trawscoed, Nanteos a Mabws.
Er sŵn ofer ddynion anallu a’u penillion,
Yn camol cymdeithion a’r haelion wŷr hŷ,
‘Rwy beunydd yn clywed am Bont Rhyd-
Mor amled ochenaid a chanu.
Pont grîn yn tîn grynu, pont dwr yn pentyrru,
Pont hâf, a phoen Teifi, pan lifo hi ar led;
Gwirionedd sy beunydd, a’r dŵr dros ei deurydd,
Gan gystudd o g’wilydd ei gweled.
Mae’n fingul, mae’n fongam, mae’n wargul, mae’n ŵyrgam,
Mae llwybr di-
Ni welwyd un ellyll, na bwbach mor erchyll,
Erioed yn traws sefyll tros afon.
Ni chei di’n y bentre, na merch wen i eiste’,
Dan sôn am weu ‘sanau neu laesau am dy lin,
Na rhynion o’r crafa, yn lân am felina,
Ond llif yn dyfetha dy fwthyn.
Pob awen sy’n gwywo, pob dyn sy’n oer diwnio,
Pob cangen sy’ heb ffrwytho yn llwydo’n ei lle;
Ni welir ar fyrdro na glanddyn yn rhodio,
Na maen o’r Bont yno ar bentanau.
Os llif dros y dolau fydd rhyngot ti a chartre’,
Er bod melysderau dy gaerau’n dy go’,
Yn lletty’r aderyn, le noeth, dan lwyn eithin,
Neu frigin coed eirin cei dario.
Mae Ned fel hen geubren, oer yw, heb yr awen,
Na synwyr yn gymmen i’w dalcen na dysg,
Gwell yn y gegin yw blawd y cardotyn,
Nac eisin oferddyn o fawrddysg.
Fe â’r gof yn ei gryfder heb ymswyn bob amser,
Gwellt yn y morter sy’n dyner yn dal,
Mae llwybr o gerrig yn ffordd ry fonheddig
I ŵr nad yw debig i Dubal.
Sion Ifan y cloddiwr, hwyrfrydig hir fradwr,
I lawr â’r bolerwr adonwr i dân,
Ffwrdd feddwyn mewn cawell, aed ymaith fel parchell
Yr hen hwch, a chyfaill ei chafan.
Fe ddarfu’r hen gwnwr rhwng Glanddyn a Glanddwr,
Morthwylion y mwynwr yn bowdwr y f’on,
Mae’r cwrw wrth y pared, ni welir un llymed,
Na drws yn agored i Garon.
Nid â’i yn y diwedd, i ‘mhyryd â mawredd,
Mi wn fod anrhydedd ein bonedd yn bur,
Ond teg i’r galluog ro’i law ar ŵyr taёog,
A brigog air enwog yr anwir.
Os Pont Rhyd-
Cyfiawnder, heb arbed, fo’n gweled y gwall;
Y tân fo’n myn’d trwyddi, a rhyw y foru,
Fo’n peri pentyrru Pont arall.
Click button to return to the top of the page and the navigation bar