William Jones

Pontrhydfendigaid

Cadeirydd cyntaf llywodraethwyr ysgol Tregaron

Dywedodd Ceiriog Evans (gweler y llyfr ‘Can Mlynedd o Addysg Uwchradd yn Nhregaron’) fod William Jones yn ŵr arbennig ac, yn wir, mae’r hyn a ysgrifennwyd amdano yn y papurau a chylchgronau’r cyfnod yn llwyr ategu hynny. Mae iddo gefndir rhyfeddol o nodedig, ac efallai y byddai ychydig o’i hanes o ddiddordeb i bobl ardal Pontrhydfendigaid a Thregaron

Cyfranodd Mr William Jones filoedd lawer o bunau at achosion crefyddol, addysgol ac elusennol. Tua 1891 rhoddodd £1000 at Gymdeithas Genhadol Dramor yr enwad yr oedd yn perthyn iddo. Rhodddodd £1000 wedi hynny at Goleg Aberystwyth, heblaw symiau mawrion eraill at wahanol amcanion daionus. Addawodd £1000 tuag at adeiladu Ysgol Ganolraddol yn Ystradmeurig. Buasai hynny gyda Chymunroddion Edward Richard &c., yn agos i ddigon i gael ysgol ragorol yn yr ardal honno. Gwna bob peth yn y dull mwyaf diymhongar a dirwysg.

Y Brython Cymreig, 29ain Medi 1893.

Pwy oedd William Jones?

Ganwyd William Jones ar y 12fed o Dachwedd 1842 ym Maesalwad Cottage, Pontrhydfendigaid, plwyf Caron uwch Clawdd. Bedyddiwyd ef yn Eglwys Ystrad Fflur ar y ddeunawfed o Ragfyr 1842 (gweler isod). Enw ei dad oedd John Jones a’i fam oedd Jane Jones. Ar y pryd, labrwr amaethyddol oedd ei dad, ond pan oedd William Jones yn dair oed, aeth i weithio i’r gwaith mwyn, a chofrestrwyd ef fel Lead Miner yng nghyfrifiad gwladol 1851.  Erbyn hyn, roedd y teulu yn byw yn Nhynewydd, yn agos i Alltddu, ac  mae’n debygol i John Jones orfod gadael Maesalwad Cottage o ganlyniad iddo newid ei waith.

Cofrestr Eglwys Ystrad Ffur (Ancestry)

Safai Maesalwad Cottage ar lecyn yn edrych i lawr dros Cors Caron. Yn y llun isod gellir gweld fferm Maesalwad heddiw ar yr ochr  dde-uchod. Tynnwyd y llun hwn ar Gors Caron ar lan afon Teifi a gobeithio y bydd yn  help i ambell berson ddychmygu’r olygfa yr oedd William Jones  yn gyfarwydd iawn â hi ; un o olygfeydd  gwych yr ardal.

O’r cychwyn, roedd yn amlwg bod gan William Jones ddawn neulltuol. Roedd yn ddysgwr cyflym iawn, ac yn ôl hanes, yn medru darllen y Beibl yn rhugl, yn Gymraeg ac yn Saesneg, a hynny pan oedd ond pedair oed. Ychydig iawn o fanteision addysgol oedd ar gael i blant y wlad ar y pryd. Cafodd William Jones ddim ond tri thymor o hyfforddiant ; pan oedd yn wyth oed, bu am un tymor yn mynychu ysgol dros-dro yng Nghapel y Methodistiaid, Tregaron. Wedyn, bu am dymor arall gyda John Williams ym Mhontrhydfendigaid (roedd John Williams yn fab i Thomas Williams, Talwrnbont, diwinydd adnabyddus yn yr ardal). Cafodd un tymor arall pan oedd yn un-ar-ddeg oed mewn ysgol a gynhaliwyd yn Eglwys Tregaron gan ŵr o ardal Ceinewydd.

Gellir bod yn sicr mai addysg elfennol iawn oedd yn yr ysgolion uchod, a daeth yr hyn a gafodd William Jones i ben yn gynnar iawn. Cyn iddo ddathlu ei benblwydd yn ddeuddeg oed, dechreuodd fel gwas bach ar fferm Wernfelen yn gofalu am y gwartheg. Ar ôl hynny, bu’n gweithio ar nifer o ffermydd eraill yn yr ardal cyn mynd,  yn un-ar bymtheg oed, yn brentis mewn siop ddillad yn Nhregaron. Wedi tair blynedd a hanner o brentisiaeth daeth yr amser i symud ymlaen, a chlywodd am swydd  yn mynd mewn siop yn Llanidloes. Yr adeg honno roedd y daith o Dregaron i Lanidloes yn un hir ac araf, ac erbyn iddo gyrraedd roedd llanc ifanc arall wedi achub y blaen arno ac wedi ei gyflogi.

 

Cofrestrwyd

William Jones

fel

Draper’s Assistant

yng

Nghyfrifiad  gwladol 1861

yn

Siop Albion House

Tregaron

Yn naturiol, roedd hyn yn ergyd fawr i William Jones, ond wrth edrych yn ôl, roedd ei ymweliad â Llanidloes yn dyngedfennol yn ei fywyd. Ynghanol ei siomedigaeth, digwyddodd gwrdd â dieithryn â chysylltiadau yn y fasnach ddillad ; cynghorodd y dieithryn ef i fynd yn syth i Birmingham, a chyflwyno ei hun i ŵr o’r enw Mr Roberts, yn gweithio i Laing & Co, Drapers yn y dref.  A dyna wnaeth William Jones, ac o ganlyniad treuliodd y naw mlynedd canlynol yn Birmingham yn gweithio i nifer o wahanol fasnachau yn ymwneud â defnyddiau a dillad.

Erbyn 1870, teimlai ei fod yn ddigon profiadol i ddechrau busnes ei hun, ac fe aeth ati a mentro, er nad oedd ganddo fawr o gyfalaf y tu cefn iddo. Ond ar ôl blwyddyn neu ddwy o waith caled, dechreuodd ei gwmni dyfu a llwyddo ac, wrth gwrs, does dim yn llwyddo cystal â llwyddiant.  Erbyn diwedd y ddegawd, roedd William  Jones yn berchen ar nifer o sefydliadau mawr yn Ashred Row, Birmingham ac yn ŵr cyfoethog iawn. Yn ôl yr hyn a ysgrifennwyd amdano yn y papurau, medrodd lwyddo mewn busnes heb fradychu ei egwyddorion cristionogol cryf, a’i foesoldeb Protestanaidd ; doedd ef meddai un adroddiad yn Y Brython Cymreig (Medi 1893) :

. . .  ddim fel ambell i un oedd wedi codi o ddim yn gorweithio ei weision ac yn twyllo ei gwsmeriaid . . . tystiolaeth pawb fu yng ngwasaneth William Jones oedd ei fod yn feistr caredig ac yn talu’n dda am eu gwaith. Mae’r ffaith ei fod wedi parhau i wneud cymaint o fasnach yn yr un fan (sef Ashted Row), a hwnnw yn le cymharol fychan yn Birmingham, yn brawf di-ymwad fod gan ei gwsmeriaid  ffydd yn ei nwyddau, y pris a ofynnai amdanynt ac yn  ei onestrwydd fel person.

 

 

Mae’n werth nodi bod holl adeiladwaith Ashted Row  wedi ei fwrw i  lawr yn gynnar yn y 1960au fel rhan o gynllun ail-adeiladu canol dinas Birmingham

 

Yn sicr, roedd gan William Jones weithwyr eithriadol o ddibynadwy a ffyddlon. Dibynnai arnynt  yn gyson i redeg ei fusnes pan oedd ef i ffwrdd am fisoedd lawer ar y tro. Roedd yn hoff o deithio ; yn 1886 bu ar siwrnai hir i’r Unol Daleithiau a Chanada, ac yn 1889 bu ar daith ar hyd glannau’r Canolfor yn ymweld â Malta, Naples, Venice, Rome a dychwelyd nôl drwy Pisa, Genoa, Turin, a Pharis. Hefyd, treuliai gyfnodau hir yng Nghymru, yn enwedig yn ardal Tregaron.

Ar hyd ei oes, roedd William Jones yn Gapelwr mawr ac yn aelod yng nghapel Cymraeg y Methodistiaid Calfinaidd yn Granville Street, Birmingham. Bu’n aelod selog a rhyfeddol o weithgar ; bu’n ddiacon am bron i ugain mlynedd ac yn athro Ysgol Sul am dros ddeng mlynedd ar hugain

Person teyrngarol

Nid pob dyn cefnog sydd yn haelionus gyda’i arian, ond roedd William Jones yn ŵr adnabyddus, ledled Cymru, am ei deyrngarwch. Cyfranodd filoedd o bunnau at achosion crefyddol, addysgol ac elusennol. Yn 1891, rhoddodd £1000 i  Gymdeithas Genhadol Dramor ei enwad a £1000 arall i’w Gapel ei hun yn Birmingham. Ychydig ar ôl hynny rhoddodd £1000 i Goleg Diwinyddol y Bala, a hefyd, yr un swm  i Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth a Phrifysgol Birmingham.

Gellir cael syniad o werth cyfraniadau William Jones yn nhermau arian heddiw drwy gymharu enillion cyfartalog (average earnings) ; yr ateb, a’r syndod hefyd, yw bod mil o bunnau yn 1890 yn gyfartal â rhyw hanner can miliwn yn 2020. Mae’n wir y gellir defnyddio cymariaethau eraill a chael atebion sydd yn uwch ac yn llai na £500,000, ond does dim dwywaith nag oedd rhoddion William Jones yn rhai mawr yn ei gyfnod, a’i fod yn ddyn neilltuol o gefnog.

Cyfrannodd nifer o symiau sylweddol eraill i wahanol achosion da, a hefyd llawer o symiau  bach (bach efallai i William Jones) er enghraifft :

  • rhoddodd ddeg gini o wobr yn Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl (1903) am ddeg ffotograff o olygfeydd wedi ei tynnu o fewn cylch o bedair milltir i Abaty Ystrad Fflur ;
  • rhoddodd £20 at adeiladu yr eglwys ym Mhontrhydfendigaid ;
  • cyfrannodd yn rheloaidd at Sioe Amaethyddol Tregaron, a bu’n llywydd y dydd nifer o weithiau ;
  • cyfeiriodd y Western Mail (17eg Awst 1893) at ei gyfraniadau swmpus i gerflun coffa Henry Richards a, hefyd, at drefniadau’r datguddio yn 1893.

Gwasanaeth cymdeithasol

Yn ogystal â bod yn ddyn haelionus gyda’i arian, roedd yn wastad yn barod i roi ei amser i wahanol achosion anghenus. Roedd yn aelod o Gyngor tref Birmingham a cheir sôn amdano ynghyd â rhai o’i gyd-gynghorwyr (gweler y Birmingham Daily Mail) yn sefydlu cronfa gymorth i’r anghenus ac yn treulio dros dair wythnos, yng ngaeaf oer 1905,  yn dosbarthu ychydig gynhaliaeth i’r teuluoedd mwyaf llwm ac amddifad yn y dref. Ysgrifennodd  lythyr i’r  Aberystwyth Observer ym mis Ionawr 1905 yn cyfeirio at gyflwr y difreintiedig yn y dinasoedd, a’i bryder ynghylch y sefyllfa, ac mae sôn amdano yn lleoli nifer o fechgyn ifainc Birmingham fel gweision ar ffermydd yng ngogledd Ceredigion.

Yng Nghymru, chwaraeodd ran amlwg yng nghyfundrefnau addysg y wlad. Bu’n aelod am gyfnod ar Bwyllgor Rheoli Coleg Normal Bangor a Choleg Diwinyddol y Bala, ac yn llywodraethwr am oes, ac aelod o gyngor Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Yng Ngheredigion, roedd yn Ynad Heddwch (J.P.) ac yn Uchel Siryf y sir yn 1896.

Ffosheulog

Cyn ei ethol yn Uchel Siryf, roedd ef a’i wraig (doedd ganddynt ddim plant) yn treulio tua hanner eu hamser yn Nhregaron. Adeiladodd dŷ, gyda golygfeydd gogoneddus, tua milltir a hanner o’r dre’ ar y ffordd i Langeithio. Roedd yn dŷ syml ei gynllun ond wedi ei adeiladu yn gadarn, yn adlewyrchiad, efallai, o gymeriad y perchennog – didwyll a chadarn. Enw gwreiddiol y cartref oedd Rhosheulog ond, erbyn heddiw, mae iddo gyfeiriad newydd – enw Seisnig.

Dywedodd William Jones unwaith fod ei briod Martha ac ef yn teimlo fel pe baent yn ail-ddechrau bywyd pan oeddent yn aros yn Rhosheulog. Roedd y ddau yn dod o’r un plwyf (Caron uwch Clawdd) ac wedi eu codi yn agos iawn i’w gilydd.  Nid oedd yr un ohonynt  meddai  yn teimlo’n ddedwydd iawn pan oeddent ymhell o’i cynefin genedigol, a da fuasai ganddynt allu parhau i aros o hyd yn yr hen ardal, ond roedd rhaid treulio rhyw gymaint o amser yn Birmingham i ennill bywoliaeth.

William Jones a Ysgol Uchradd Tregaron

Tri  pheth y gellir bod yn sicr am William Jones, roedd bro ei febyd, ei grefydd Gristionogol ac addysg yn agos iawn at ei galon. Bu ef, a nifer o bobl eraill, yn ymdrechu am flynyddoedd lawer i gael ysgol uwchradd yn Nhregaron. Yn 1896, gwireddwyd eu hymdrechion, ond ar yr amod bod y dre’ a’r ardal yn casglu a chyfrannu  £1000 tuag at adeiladu’r ysgol. Tair blynedd yn ddiweddarach, agorwyd adeilad newydd yn Nhregaron, a dyma beth oedd gan y Western Mail i ddweud ar y pryd (Mai 1898): 

. . . it is very creditable to the locality that the institution was opened on Friday absolutely free from debt, the necessary £1,000 . . . having been contributed in small sums by the public generally, the only large contribution being £100 by Mr. William Jones, Ffosheulog.

Cadeirydd cyntaf llywodraethwyr yr ysgol oedd William Jones, a chwaraeodd ran flaenllaw ar ddiwrnod agor yr adeilad newydd. Cyn y seremoni agoriadol, roedd cinio wedi ei baratoi i’r ‘mawrion a’r da‘ yn Neuadd y Dref, a the yn y National School  i’r disgyblion, cyn-ddisgyblion, rhieni a phawb a fedrai ddweud bod ganddo/ganddi gysylltiad â’r ysgol .  Roedd y cyfan ar draul William Jones, ac yn ôl yr hanes yn y Cambrian News  (gweler yr Illustrated Special Edition) cymerodd tua 500 i 600 o bobl fantais ar haelioni’r cadeirydd. Dywedodd The Aberystwyth Observer (Mehefin 1899) bod Neuadd y Dre’  yn :

. . . prettily decorated for the occasion, prominence being given to the mottoes ‘Success to the School,” and “Long Life to Mr and Mrs William Jones”.

Yn ei amser, mae’n siwr bod William Jones yn ŵr adnabyddus iawn yn Nhregaron a’r cylch. Heb os, chwaraeodd ran ddylanwadol ym mywyd cyhoeddus yr ardal,  ac mae’n ymddangos ei fod yn fawr ei barch yn y gymdogaeth. Dim ond braslun o’i fywyd sydd yma, ond mae’n hollol amlwg, fel y dywedodd Ceiriog Evans, ei fod yn berson arbennig, ac mae’n wir i ddweud na ddeuir ar draws ei debyg yn aml. Eto, nid yw ei enw mor adnabyddus â phobl fel Henry Richard, Syr David James, Pantyfedwen a David Davies, Llandinam, ond yn sicr mae’n llawn mor deilwng o glod a chydnabyddiaeth.  Fel mab i deulu difreintiedig roedd yn ymwybodol o wir werth addysg a bu’n brwydro ar hyd ei oes i sicrhau cyfleusterau gwell i eraill na chafodd ef ei hun. Chwaraeodd ran allweddol yn yr ymdrech i sicrhau addysg uwchradd i blant Tregaron a phlant  ardaloedd yn ymestyn o Gwmystwyth i Lambedr-pont-steffan, Llanilar a Thalsarn. Yn yr un modd, fel sydd wedi ei nodi yn barod, roedd ei gyfraniadau i addysg uwch hefyd yn haelfrydig, ond rywsut mae’r cyfan fel petai wedi mynd yn gwbl anghof.  

Cyn gorffen, mae’n werth nodi bod William Jones yn un o saith o blant ac mae’n siwr bod nifer o ddisgynyddion John a Jane Jones, Maesalwad Cottage yn dal i fyw yn yr ardal. Byddai yn ddiddorol clywed oddi wrthynt.

Click button to return to the top of the page and to the navigation bar