Mwrdwr
Humphrey (Wmffrey) Jenkins
Mantstalwen
(1699)
1. | Bonedd a chyffredin Cymry, Dewch yn nes gwrandewch fi’n traethu, Am hen ŵr oedd yn cadw Tylwyth, Araf Hwsmon gweddol esmwyth. | |
2. | Yr oedd yn byw ymlaen Brycheiniog, Yn ŵr o rinwedd glân Ariannog, Yn fawr ei barch, yn gryf ei foddion, A phob tegwch Duw a digon. | |
3. | Wmffre Jenkins oedd ei enw, Trwy’r holl wlad yn gymeradwy Yn byw ar gynnydd rhwng ei genedl O lwyth Boneddigion Achog uchel. | |
4. | Daeth deugain punt o arian iddo, Oedd y maes yn sicr ganddo : Fe rifai rheini i’w cadw’n gyfan, Lle gallai rhoddi eilwaith allan. | |
5. | Fe gyttunodd y ddwy forwyn A’i was Penna roi’ iddo wenwyn : Fel y gallent speilio’i goffor Gwedi ei ddifa a thresio’i drysor. | |
6. | Hwy roen gwpaned gwenwyn iddo, Pan ddaeth i’r ty a syched arno : Ynte’i hyfodd fel gŵr gwirion, Heb ddim bredych fod y bradon | |
7. | Yn ebrwydd iawn fe chwyddai’n enbyd, ‘Roedd ganddo Salet Oil Botteled : Fe ddechreuodd yfed honno I ddofi’r gwenwyn oedd yn gwynio. | |
8. | Ac a archodd i’r gwas arall, Gyrchu’i geffyl iddo’n ddiwall, Fel y gallai ddianc yn ddiysymwyth Rhag cwpla’i ladd rhwng dwylo’i dylwyth. | |
9. | Pan aeth y gwas i gyrchu’r ceffyl, Nhwy gyttun’son eill tri’n gynnil Mae’r ffordd nesa i ddwyn ei fywyd, Oedd tagu’i geg a hosan wstyd. | |
10. | A cheisio cadw cylch ei wddwg, Heb ddim ymlyw i weld yn amlwg, Fel y gallent dynu eu bwriad, Gwedi’r mawr ddrwg gelu’r mwrddiad’ | |
11. | Fe tafleu’r gwas e’n ebrwydd dano A’r ddwy forwyn arno’n pwyso, Nes iddo dagu’n farw i ddigon, Dyna ortrech trist ar Gristion. | |
12. | Fe griau Magu, Magu yn oerllyd, Cei fodd i fyw od cedwi mywyd, A hithau’n un o’r tri pechadur, Ar ei frest yn mwrddro’i mheistr. | |
13. | A bwrw ei gelain ef ar y gwely, I ‘stafell fach y maes o’r penty, Y man lle byddai’n arferedig, Wrth ei hunan gysgu yn unig. | |
14. | A chlo i’r drws yn ddiogel arno, O’r tu fewn er mwyn dieithrio, A chwedyn roddi piler bychan, I fynd twy dwll y ffenestr allan. | |
15. | Fe fu yno ddau ddiwrnod, Yn ddistaw iawn heb neb yn nabod, Nes darfod chwilio’i holl gornelau, Am arian bath a chuddio’i bethau. | |
16. | A’i gwas lleia yn crio hawyr, O Dduw beth wnaethoch chwi i’m meistr A hwythau’n hylim yn ei hela. Ai gadw yn galed i fugeilia. | |
17. | Daeth Mr Daniel Pryddech yno, Gwr parchedig call cywyrdro : Cynta gair a ‘fynnodd iddyn, Ple mae eich meistr Wmffre Jenkins. | |
18. | Hwy ddwedson wrtho i fod yn cysgu, Er’s dau ddiwrnod ar ei wely, Nad oedd gan un dyn ffordd i ddeffro; Eisiau cael y drws yn nadclo. | |
19, | Fe redai’n ebrwydd wrth y ffenest, I wel’d yn esmwyth heb ddim gorchest, Gweiddi’n bres o flaen ei wyneb, Ni chadd etto air o ateb. | |
20. | Fe ddaeth yno fwyn gym’dogion, Cwnni’r drws wrth rym trosolion, Gweld y gwr yn farw yn gorwedd, A chwydd mawr yn salw ei sylwedd. | |
21. | A chael yr allwedd ar y ffwrwm, Y man lle dodsai’r llofrydd lawdrwm, Gwas y Diawl yn llawn dichellion, Gwedi mwrddro ei feistr gwirion.
|
22. | Yn ebrwydd iawn fe gadd ei gladdu, O achos fod y corff yn gwaethu ‘Doedd neb yn meddwl mewn un moddion, Fodd i lanas ar ei elynion. |
23. | Fe gedwyd hyn ddwy flynedd hirion, Nes i’r ddwy forwyn fynd i ymryson A’r ferch leia’n traethu’r cwbwl, I’r llall wenwyno ei mheistr annwl. |
24. | Fe drawyd llaw yn ebrwydd arni, A’i rhoi yn gaeth dan law cwnstebli Nes cael chwilio’r holl wirionedd Pwy ffordd y daeth i gael ei ddiwedd. |
25. | Pan ddaeth hi o flaen yr wstus gynta, I wrando tyst y forwyn leia’ Celu’r drwg fe ffaelodd iddi, O achos bod y gwaed yn gwaedi. |
26. | Fe rhoed hi ar frys mewn carchar caled, I aros barn yn ôl ei gweithred Am iddi roi i’w meistr wenwyn – Dyna fwriad trist y forwyn. |
27. | Pan ddaeth i atteb dyddiau’r Sesiwn, O flaen Barnwyr o Gomissiwn, Wrth union dyst hi gaed yn euog, Trwy ddeuddeg gwr wrth far Brycheiniog. |
28. | Rhoi’r Judge y ferdict iddi grogi, Yn haner marw cyn ei llosgi, Fel gallai eraill gymryd rhybydd, Wrth weithred hona’i throm ddihenydd. |
29. | A’r trydydd dydd o Fai diwedda Y rhoed hi dan y pren dioddeddfa, Mewn pig a llysg hi gadd ei llosgi Yn ulw mân wrth Aberhonddi. |
30. | A’r gwas a ffodd o’r wlad yn fuan, Pan ddatguddiwyd y drwg allan, Ni wyr un dyn p’le gwnaeth ei drugfa, Wedi ddilyn ffaelu ei ddala. |
31. | Aed i Loegr aed i Werddon, Fyth ni ddianc rhag trallodion, Cerdded dir a dwr lle gallo, Mae gwaed ei feistr gwirion arno. |
32. | Fe ddichon pob darllenydd gofio, Fod gwaed Abel etto’n crio, Er dechreu’r byd mae Duw’n cyhoeddi Pob dirgel lanas i oleuni. |
33. | Mae’r scrythur lan yn roi rhybyddion I wach’lyd tywallt gwaed y gwirion A’r dyn a’i gwnel mae’n byw mewn gofal Nes del digofaent Duw a dial. |
34. | Gwaith Duw sydd yn rhoddi oes a bywyd A chennad Duw yw’r angau i’n symud, Cymeryd Gallu Duw o’i ddwylo, Wnaeth llawer myrdd o’r rhai sy’n mwrddro. |
35. | Mae Satan fyth yn hudo’i weision, Rhai yn fwrddwyr rhai yn lladron Ac yn eu harwain i’w eu colli, Efe yw cynog pob drygioni. |
36. | Wedi’r Cythrel dwyllo’r dynion, O drachwant ladd eu meistr gwirion, Gwnaeth iddynt gwedi’n cymrwn rybudd, Cyhuddo’n galed ar ein gilydd. |
37. | Duw roddo ras i bob pechadur, Droi yn ol heb droedio’r llwybr, A’r dyn arhoso dan ei ewinedd Caiff drwm madawiad yn y diwedd. |
38. | Pan edrychwn ar yr union, Sy’n ofni Duw o brydd- Mae hwnnw’n dilyn ffordd lwyddianus, Hyd ei fedd yn dangnefeddus. |
39. | Dilynwn ninnau lwybrau duwiol, Yn gristionogedd ac yn rasol, Mae Duw yn addo i’r ffyddlonied, Borth trugaredd yn agored. |
40. | Ymrown i ladd pob pechod aflan, Cyn caffo dorri o’r plysgyn allan, Rhag iddo fagu ciw anniben Yn ddibarch i ladd ei berchen. |
41. | Dyma rybudd i bob Cristion Wach’lyd trachwant a byw’n union Rhag cael eu barnu i boen tragwyddol Am eu drwg i’r ffwrn uffernol.
|
I fynd nôi i’r dudalen flaenol cliciwch yma
Cyhoeddwyd, neu ail-
Copi ar gael yn LL.G.C.
Click button to return to the top of the page and to the navigation bar.