Mae hanes mwrdwr Humphry (Wmffre) Jenkins wedi ei roi ar gof a chadw mewn cân neu faled gan Philyb Thomas
Llun o Gwm Tywi gyda Nantstalwen i’w weld ar waelod y llun ar yr ochr dde. I gael syniad sut fferm-dy oedd Nantstalen ar yn y ddeunawfed granrif ewch i’r dudalen we callynol https://www.flickr.com/photos/henriw-wright/15103905126
Mae’r rhai hynny sydd wedi darllen hanes Rhys Williams ar y safwe yma www.hanesybont.uk/rw/rhyswilliams1.htm] wedi dod ar draws John Jones o Gilpyll ym mhlwyf Nancwnlle ; roedd yn ffermio yn Nantstalwen am gyfnod yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Symudodd i Gilpyll tua 1875 ac yno y bu yn ddyn cymdeithasol amlwg – yn Y.H. a Chynghorydd Sir. Ar ôl symud, trosglwyddodd fferm Nantstalwen i’w ferch a’i gwr, J.D. Edwards. Gwnaeth Mr Edwards hefyd, yn ei dro, ildio’r lle i’w fab a bu ef yn byw yno hyd ddechrau chwedegau y ganrif ddiwethaf. Mae’n ddiddorol nodi fod Nantstalwen wedi bod yn gartref i’r teulu yma am genedlaethau, yn ddi-
Yn Nantstalwen y cafodd John Jones ei eni a’i fagu. Ei dad oedd Thomas Jones ac roedd ef yn un o deulu adnabyddus iawn yn ardaloedd y mynydd – teulu “Cochiaid Cwm Tywi”. Mam y teulu hwn oedd Gwen Nant-
Mae’n debyg mai gwallt coch oedd gan y wraig, sef Gwen Nant-
rhwch. Cyfrifid hi yn wraig ddeallus a darbodus dros ben.
Tadcu Gwen (a hen hen ddadcu i John Jones) oedd gŵr o’r enw Humphry Jenkins ac roedd ef yn byw yn Nanstalwen yn hanner olaf yr ail ganrif ar bymtheg ac yn ôl baled gan Philyb Thomas roedd [2] :
Yn ŵr o rinwedd glân Ariannog,
Yn fawr ei barch, yn gryf ei foddion,
A phob tegwch Duw a digon
Yn ôl yr hanes, ym maled Philyb Thomas, cafodd Humphry Jenkins ei lofruddio gan ei was pennaf a’i ddwy forwyn – rhan o gynllwyn y tri i ddwyn a rhannu deugain punt o’i arian a oedd wedi eu cuddio mewn cyst yn y tŷ. Fe gytunwyd i roi diod gwenwynig i Humphrey Jenkins i’w yfed :
Fe gyttunodd y ddwy forwyn’
A’i wâs Penna roi’ iddo wenwyn:
Fel y gallent speilio’i goffor’
Gwedi ei ddifa a thresio’i drysor
Yn anffodus i’r cynllwynwyr, ar ôl i Humphry Jenkins gymryd y ddiod, deallodd yn syth fod rhywbeth mawr o le a dyma fe’n yfed potelaid o ‘salad oil’ i ddofi’r gwenwyn :
Yn ebrwydd iawn fe chwyddai’n enbyd,
‘Roedd ganddo Salet Oil Botteled :
Fe ddechreuodd yfed honno’
I ddofi’r gwenwyn oedd yn gwynio.
Ar ôl gweld fod y cynllwyn yn mynd i fethu, fe waeth y troseddwyr ymosod yn gorfforol ar Humphrey Jenkins. Hyrddiodd y gwas Humphrey Jenkins i’r llawr a chyda help y morwynion, fe’i mwrdrodd drwy dagu’i geg a hosan wstyd. Roedd rhaid iddo ymatal rhag clymru’r hosan am wddwg y dioddefydd –
A cheisio cadw cylch ei wddwg,
Heb ddim ymlyw i weld yn amlwg,
Fel y gallent dynu eu bwriad,
Gwedi’r mawr ddrwg gelu’r mwrddiad
Llusgodd y tri y corff i ystafell wely a chloi y drws o’r tu fewn a, wedyn mynd allan drwy’r ffenestr. Yno y bu Humphrey Jenkins nes i un o’i gymdogion –
Yn wir doedd neb yn ddrwgdybus tan rhyw ddwy flynedd yn ddiweddarach ar ol iddi fynd yn ffrwgwd rhwng y ddwy forwyn. Mwy na thebyg mai cweryl ynghylch yr arian oedd yn gyfrifol ond, fel canlyniad, fe aeth y forwyn fach i adrodd stori’r gwenwyn a’r tagu wrth y. Cwnstabliaid. Dihangodd y gwas pennaf ac nis gwelwyd fyth wedyn. Cafodd y forwyn fach bardwn am dystio dros y goron ond defrydwyd y forwyn bennaf i farwolaeth. I gymharu â phethau heddiw, roedd ei thynged hi yn ddidostur a barbaraidd. –
Rhoi’r Judge y ferdict iddi grogi,
Yn haner marw cyn ei llosgi
. . . ac yn ôl y falad fe’i rhoddwyd ar dân :
Mewn pig a llysg hi gadd ei llosgi
Yn ulw mân wrth Aberhonddi.
. . . hynny yw, mewn tar a chlwm o danwydd yn ulw mân wrth Aberhonddi.
Er y dystiolaeth erchyll yn y faled, mae’n fwy na thebyg, meddai Glyn Parry [3], fod Magu (dyna ei henw) yn farw cyn iddi gael ei llosgi. Yn y ddeunawfed ganrif roedd pawb yn cymryd yn ganiataol fod y dienyddwyr yn rhoi terfyn ar fywyd menywod (drwy eu llindagu) cyn iddynt gael eu bwrw ar y tân. Daeth y dull yma o gosbi i ben yn y ddeunawfed ganrif ac mae’n debyg mai Magu’r forwyn oedd y ddynes olaf i gael ei llosgi yng Nghymru.
Wrth gwrs, y ddadl dros gosb lem oedd y byddai hyn yn ddigon i ddychryn unrhyw un a fyddai yn ystyried troseddu. Yr amser hynny, doedd yna ddim cyfundrefn broffesiynol ar gael i gadw rheolaeth a threfn ; hwyrach, mai creu ofn oedd yr unig fodd y gellid ei ddefnyddio i gyfyngu drwgweithredu. Yn ddiddorol, roedd y baledwyr yn ychwanegu at ofn y gyfraith drwy rybuddio pawb beunydd fod yna gosb arall yn wynebu camweithredwyr, hyd yn oed y rhai hynny oedd heb eu dal. Mae deg pennill olaf baled Philyb Thomas yn ymwneud â’r gosb honno sydd yn wynebu pawb pan ddaw y dirgel lanas i oleni yn nydd y farn :
Fe ddichon pob darllenydd gofio,
Fod gwaed Abel etto’n crio,
Er dechreu’r byd mae Duw’n cyhoeddi
Pob dirgel lanas i oleuni.
Dyma rybudd i bob Cristion
Wach’lyd trachwant a byw’n union
Rhag cael eu barnu i boen tragwyddol
Am eu drwg i’r ffwrn uffernol.
Os am weld baled Philyb Thomas fel cyfanwaith, cliciwch y botwm canlynol
[1] Evan Jones, Cymdogaeth Soar-
[2] Philyb Thomas, Cân yn dangos marwolaeth Humphry Jenkins, Argraffwyd dros EfanWiliam gan I.Ross, 1772.
[3] Glyn Parry, Launched to Eternity, The National Library of Wales, 2001
Click button to return to the top of the page and to the navigation bar